Teyrnged i 'ddyn teulu ffyddlon' fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Trallwng y penwythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Rhys Jenkins, 41 o Lyn-nedd, Castell-nedd Port Talbot, yn y fan a'r lle wedi gwrthdrawiad ar yr A483 ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd.
Roedd Mr Jenkins yn teithio gyda'i fab naw oed sy'n parhau yn yr ysbyty yn gwella o'i anafiadau, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd teulu Mr Jenkins ei fod yn "yn 诺r, tad a dyn teulu ffyddlon" a bod ei golled yn "gwbl ddinistriol" iddynt.
"Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom ers y digwyddiad gwirioneddol ofnadwy hwn ac yn parhau i gael ein cysuro gan y dymuniadau da.
"Byddem fel teulu yn ddiolchgar i gael amser i alaru yn awr," medden.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn 么l
Cafodd dau ddyn eu cyhuddo o nifer o droseddau gyrru yn cynnwys gyrru dan ddylanwad cyffuriau ac achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Mae鈥檙 ddau ddyn, sy'n 29 a 33 oed, wedi鈥檜 cadw yn y ddalfa.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.