大象传媒

Buddsoddiad 'yn hanfodol' i Gymry ifanc cefn gwlad

Ffermwyr Ifanc Capel Iwan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae criw Clwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan yn falch o'r cyfle i gymdeithasu yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae buddsoddiad yn y sector amaeth yn 鈥渉anfodol i ddyfodol y Gymraeg鈥 wrth gymdeithasu, yn 么l rhai o ffermwyr ifanc Cymru.

Mewn cyfweliad 芒 大象传媒 Cymru yn ddiweddar, wrth i鈥檞 gyfnod fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ddod i ben, fe gododd Glyn Roberts amheuon am ddyfodol cymunedau cefn gwlad.

Os na fydd Llywodraeth Cymru鈥檔 buddsoddi鈥檔 ehangach, rhybuddiodd y bydd cefn gwlad, iaith a diwylliant yn 鈥渄ioddef鈥.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi creu Comisiwn Cymunedau Cymraeg gyda鈥檙 bwriad o wneud argymhellion penodol i gryfhau cymunedau Cymraeg.

A hithau鈥檔 wythnos y Sioe Fawr, beth yw ymateb rhai o bobl ifanc yr ardaloedd gwledig i鈥檙 hyn oedd gan Glyn Roberts i鈥檞 ddweud?

Mae criw o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan yn cwrdd yn y neuadd bentref yn wythnosol.

Dywedodd Gwennan Evans o glwb Capel Iwan wrth Newyddion S4C ei bod yn "teimlo鈥檔 freintiedig iawn" fod ganddi gyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond, ychwanegodd: "Fi鈥檔 credu bod cefnogaeth i鈥檙 sector amaethyddol yn hanfodol iawn i ddyfodol y Gymraeg鈥 heb unrhyw fath o fuddsoddiad ynddo fe, dyw e ddim am barhau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cadeirydd y clwb yng Nghapel Iwan, Manon Thomas, yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar y sector amaeth

Manon Thomas yw cadeirydd y clwb yng Nghapel Iwan.

"[Mae] angen mwy o gefnogaeth i amaethyddiaeth oherwydd mewn ardaloedd gwledig, hwn yw鈥檙 unig ffordd o gymdeithasu i bobl ifanc, a heb rhyw sylfaen gydag asgwrn cefn wedi ei ariannu yn ddigonol bydd dim dyfodol i gael," meddai.

Mae鈥檙 her o gadw Cymry Cymraeg yng nghefn gwlad Cymru yn un gynyddol.

Fe ddangosodd canfyddiadau'r cyfrifiad diweddar y bu gostyngiad o 4% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ardal Sir Gaerfyrddin dros y degawd diwethaf, sef y cwymp mwyaf o holl siroedd Cymru.

'Denu pobl 'n么l'

Ond mae rhai o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan yn dweud bod y mudiad yn rheswm da i bobl ddychwelyd i鈥檞 hardal.

鈥樷楳a fe鈥檔 rhywbeth unigryw iawn 'sda ni fel mudiad Ffermwyr Ifanc bod pobl o 11-28 oed yn gallu dod i gymdeithasu, ni鈥檔 denu pobl n么l sydd wedi bod yn y prifddinasoedd 鈥榤a yn y brifysgol," dywedodd Sara Jones.

"Ma' nhw鈥檔 dod n么l i gefn gwlad, n么l i鈥檙 Clwb Ffermwyr Ifanc, n么l i鈥檙 neuadd yng Nghapel Iwan ar nos Lun."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Iwan Thomas yn ddarlithydd yng Ngholeg Sir G芒r

Un elfen sy鈥檔 cynnig llygedyn o obaith yw bod cynnydd yn y cyfleoedd i astudio amaethyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein colegau erbyn hyn, yn 么l Iwan Thomas, Darlithydd yng Ngholeg Sir G芒r.

"Ma' tua 60% o fyfyrwyr yn medru siarad a chyfathrebu yn hollol naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Ma' strwythur y cyrsiau yn caniat谩u i fyfyrwyr i weithio, ma' nifer helaeth ohonyn nhw yn gweithio o fewn y diwydiant.

"Felly mae鈥檔 galluogi pobl ifanc i sefyll yn eu cymunedau lleol, i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd i gyfrannu yn bositif i鈥檞 cymunedau lleol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Aled Jones fod y cyfle i astudio amaethyddiaeth yn Gymraeg yn werthfawr

Ac mae鈥檙 cyn-fyfyriwr Aled Jones yn ategu鈥檙 sylwadau hynny ac yntau鈥檔 un o鈥檙 myfyrwyr sydd newydd raddio mewn amaethyddiaeth o Goleg Sir G芒r, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd: "Ma鈥 llai o Gymraeg am biti鈥檙 lle nawr so o ni鈥檔 meddwl os allwn ni wneud y cwrs yn Gymraeg wedyn falle allen ni gynnig opsiwn Cymraeg i gadw fe fynd."

'Trafod gyda ffermwyr ifanc yn y Sioe'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi creu Comisiwn Cymunedau Cymraeg gyda鈥檙 bwriad o wneud argymhellion penodol i gryfhau cymunedau Cymraeg.

Ychwanegodd y llefarydd y bydd trafodaethau rhwng Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, Cadeirydd y Comisiwn ac aelodau mudiad y Ffermwyr Ifanc yn parhau ar faes y sioe yr wythnos hon.