Dyn 24 oed yn yr ysbyty wedi ymosodiad gan gi
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn ymosodiad gan gi yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Blair yn Aberafan am tua 07:00 fore Llun yn dilyn adroddiadau o "ddigwyddiad yn ymwneud 芒 chi".
Cafodd y dyn 24 oed - sy'n perthyn i berchennog y ci - ei gludo i'r ysbyty gydag "anafiadau difrifol".
Yn 么l swyddogion, mae'r ci bellach wedi ei dawelu ac wedi cael ei gludo o'r safle gan adran g诺n yr heddlu.
Dywed llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad am 07:14 a'u bod wedi cludo unigolyn i'r ysbyty.
Dywedodd rhywun sy'n byw yn agos at safle'r digwyddiad wrth 大象传媒 Cymru: 鈥淩hyw fath o gi pitbull achubon nhw o d欧 cyffuriau rhyw saith mis yn 么l oedd e.
鈥淕welais i saith neu wyth car heddlu yma o leia鈥. Roedd 鈥榥a heddlu arfog yma yn chwilio am y ci.
鈥淩oedd 鈥榥a guro ar fy nrws am 07:30, a'r heddlu am chwilio yn ein gerddi. Fe ofynnon nhw i ni aros tu fewn.鈥
Pwyntiodd yr unigolyn at waed ar ffens gerllaw.
鈥淩o鈥檔 i'n tybio mai gwaed y ci oedd hwn, ond fe ddaeth brawd y bachgen draw a dweud wrtha鈥 i ei fod yn perthyn i'r bachgen.鈥
鈥淒ydyn nhw ddim yn byw yma, mynd a'r ci am dro yn y cae oedden nhw pan ddigwyddodd y peth.鈥
Fe ddywedodd ail berson wrth 大象传媒 Cymru: 鈥淕welais i heddwas gyda gwn yn cerdded heibio fy ffenest, yn chwilio am y ci.鈥