大象传媒

Ynys M么n: Pryderon am les gwartheg ar fferm

GwarthegFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Ynys M么n yn goruchwylio lles gwartheg ar un o ffermydd yr ynys.

Fe ddaw yn dilyn ymchwiliad i bryderon yngl欧n 芒 lles anifeiliaid ar y fferm.

Mae 大象传媒 Cymru Fyw ar ddeall mai fferm laeth ydy'r fferm dan sylw.

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor M么n: "Gallwn gadarnhau bod y cyngor sir wrthi鈥檔 goruchwylio lles nifer o wartheg.

"Mae ein swyddogion iechyd anifeiliaid wrthi鈥檔 gweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Wledig Cymru."

Mae gan y cyngor sir gyfrifoldeb i sicrhau lles anifeiliaid yn unol 芒 Deddf Lles Anifeiliaid 2006.

Yn 么l elusen lles anifeiliaid RSPCA, dydyn nhw ddim yn ymwneud 芒'r achos yma'n benodol, ond fe gadarnhaodd llefarydd ar ran yr elusen fod adran safonau masnach cyngor sir Ynys M么n yn rhoi gwybod iddyn nhw am ddatblygiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i鈥檙 llywodraeth hon.

"Mae鈥檙 Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a鈥檙 Awdurdod Lleol yn ymchwilio ac ni allwn wneud sylw ar yr achos penodol hwn."

Pynciau cysylltiedig