Y Seintiau Newydd yn rhannu record Cymraeg ar 么l curo Llangollen 16-0
- Cyhoeddwyd
Mae'r Seintiau Newydd yn rhannu'r record am y fuddugoliaeth fwyaf yn hanes Cwpan Cymru ar 么l trechu Llangollen Town 16-0.
Roedd y sg么r yn cyfateb i鈥檙 record flaenorol o 16 g么l, a gafodd ei osod yn gyntaf ym 1883-34 pan gurodd Davenham eilyddion Treffynnon o鈥檙 un maint.
Llwyddodd Caerdydd hefyd i guro Trefyclo 16-0 yn 1961 tra, yn fwyaf diweddar, trechodd Y Bala Brymbo 17-1 ym mis Medi 2021.
Llwyddodd TNS, a ddaeth yn ail y llynedd, i drechu t卯m Ardal Gogledd Ddwyrain Lloegr yn Neuadd y Parc i symud ymlaen i'r drydedd rownd.
Roedd t卯m Craig Harrison - sy'n chwarae nesaf yn erbyn Astana o Kazakhstan yng Nghyngres UEFA ddydd Iau - ar y blaen o 9-0 ar yr hanner, gydag Adam Wilson yn sgorio hat-tric cyn yr egwyl.
Ychwanegodd Wilson, sydd ar fenthyg gan Bradford, at ei gyfrif wedi鈥檙 egwyl am gyfanswm o bedwar gyda Ryan Brobbel, Declan McManus, Danny Redmond ac Ash Baker i gyd yn sgorio dwy yr un.
Colled TNS gan Nomadiaid Cei Connah yn rownd derfynol y llynedd oedd eu colled gyntaf yn y gystadleuaeth ers chwe blynedd ar 么l ennill y tair rownd derfynol flaenorol.
Mae'r clwb o Groesoswallt yn anelu at gipio'r tlws am y 10fed troi fod yn gyfartal 芒 record Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Abertawe.
Cwpan Cymru yw'r drydedd gystadleuaeth b锚l-droed hynaf yn y byd, yn dyddio'n ol i 1877.