Newidiadau cynllunio i gyflymu penderfyniadau ynni gl芒n
- Cyhoeddwyd
Mae newidiadau i'r system gynllunio ar gyfer prosiectau ynni gl芒n wedi'u cyhoeddi, i geisio cyflymu'r broses.
Mae'n golygu na fydd penderfyniadau ar gynlluniau hyd at 50MW yn gorfod cael eu cyfeirio at weinidogion i'w cymeradwyo.
O ran maint, gallai hyn gynnwys fferm wynt 芒 mwy na deg tyrbin, neu fferm solar yn gorchuddio ymhell dros 100 erw (40 hectar) o dir.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Rebecca Evans, y byddai rhoi'r awdurdod i arolygwyr cynllunio'r llywodraeth benderfynu ar gynlluniau o'r fath yn lleihau faint o amser sy'n rhaid i ddatblygwyr aros gan oddeutu 12 wythnos.
Mae'r newidiadau wedi eu cyhoeddi yn dilyn beirniadaeth ddiweddar gan y sector yngl欧n 芒'r amser mae'n gymryd i ddod i benderfyniad am gyfres o ffermydd gwynt.
Ond mae'r newid yn debygol o fod yn ddadleuol mewn rhai cymunedau sy'n pryderu am effaith weledol rhagor o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a'r peilonau sy'n dod gyda nhw.
Mewn araith i gynhadledd o ddatblygwyr ynni yng Nghasnewydd, bydd Ms Evans yn dweud bod angen gwelliannau i'r system gynllunio os yw Cymru am greu swyddi gwyrdd a chyrraedd targedau newid hinsawdd.
Bydd yn cyhoeddi mai PEDW - arolygiaeth gynllunio Llywodraeth Cymru - fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar brosiectau ynni adnewyddadwy hyd at 50MW yn y dyfodol.
Bydd cynlluniau i "ddechrau mynd i'r afael 芒'r prinder cynllunwyr ar lefelau lleol a chenedlaethol" yn cael eu cyflwyno hefyd.
"Mae cyflymu penderfyniadau cynllunio seilwaith yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru - mae angen i ni ei wneud y broses mor effeithlon 芒 phosibl i bawb dan sylw," meddai.
"Bydd dirprwyo pwerau gwneud penderfyniadau i PEDW ar brosiectau ynni adnewyddadwy hyd at 50MW yn unig yn lleihau'r amser penderfynu o'r dechrau i'r diwedd, weithiau o sawl mis."
Bydd "ymgynghoriad eang" yn dechrau hefyd i holi sut all Cymru sicrhau bod ganddi "ddigon o gynllunwyr a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, gyda'r sgiliau cywir yn y meysydd cywir".
Dywedodd Ms Evans bod pum cynllun ynni adnewyddadwy sylweddol wedi'u cymeradwyo ers iddi gael ei phenodi ym mis Medi, gyda'r gallu i gynhyrchu digon o drydan gl芒n ar gyfer dros 180,000 o gartrefi.
Mae pum cais pellach wrthi'n cael eu hystyried gan weinidogion, a 15 arall "ar wahanol gamau o safbwynt eu derbyn a'u harchwilio".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
- Cyhoeddwyd15 Hydref