大象传媒

Croatia v Cymru: 'Dim esgusodion' i d卯m Wilkinson

Disgrifiad,

Yn siarad gyda'r wasg pwysleisiodd Angharad James y pwysigrwydd o groesawu chwaraewyr newydd i'r garfan

  • Cyhoeddwyd

Bydd yn rhaid i d卯m p锚l-droed merched Cymru sicrhau buddugoliaethau yn erbyn Croatia yn Zagreb nos Wener, a gartref yn erbyn Kosovo yr wythnos nesaf, er mwyn sicrhau eu bod yn gorffen ar frig eu gr诺p yng ngemau rhagbrofol Euro 2025.

Fydd yna "ddim esgusodion", yn 么l y prif hyfforddwr Rhian Wilkinson, os nad ydyn nhw鈥檔 llwyddo i wneud hynny.

Yr ymosodwr Ceri Holland fydd yn gapten yn Croatia, a hi fydd y pumed chwaraewr mewn pum g锚m i wisgo鈥檙 rhwymyn, wrth i Wilkinson barhau i bendroni ar gapten parhaol wedi i Sophie Ingle gamu n么l o鈥檙 r么l.

Mi fydd yr amodau yn heriol allan yn Zagreb, wrth i鈥檙 tymheredd uchaf gyrraedd bron i 35C dros y dyddiau nesaf.

Ond yn 么l Wilkinson does dim modd defnyddio hynny, na鈥檙 ffaith bod y rhan fwyaf o鈥檙 chwaraewyr ar eu cyfnod gorffwys wedi i鈥檙 tymor domestig ddod i ben, fel esgus os nad ydy鈥檙 canlyniad yn mynd o鈥檜 plaid nos Wener.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyliadau uchel gan Rhian Wilkinson wedi g锚m gyfartal Cymru yn erbyn Wcr谩in

鈥淩oedd y g锚m gyfartal yn erbyn Wcr谩in y tro diwetha' yn ergyd,鈥 medd Wilkinson wrth y 大象传媒.

鈥淥nd, mae鈥檔 ein hatgoffa ni na chawn ni unrhywbeth ar bl芒t, ac mae鈥檔 rhaid i ni weithio鈥檔 galed am bopeth.

鈥淔elly, os mai鈥檙 sialens ydy鈥檙 gwres neu鈥檙 ffaith ein bod ni鈥檔 cyfarfod rhai o鈥檙 chwaraewyr yma, fel i mi ddweud yn gynt yn yr ymgyrch, does dim esgusodion.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ceri Holland fydd capten Cymru nos Wener

Fe deithiodd t卯m Cymru o Gaerdydd i Zagreb brynhawn Mercher, ond heb Jess Fishlock, Angharad James a Lily Woodham 鈥 gan eu bod wedi chwarae dros eu clwb Seattle Reign yn yr Unol Daleithiau ddydd Sul.

Ond maen nhw wedi cwrdd 芒鈥檙 garfan yn Croatia.

Wedi鈥檙 ddwy g锚m gyfartal yn erbyn Wcr谩in fis diwethaf, bydd angen i鈥檙 t卯m fod ar eu gorau er mwyn sicrhau buddugoliaethau yn y ddwy g锚m nesaf, a hynny yn y gobaith o orffen ar frig gr诺p B4 a sicrhau llwybr mwy caredig i gyrraedd Euro 2025 trwy'r gemau ail gyfle.

Byddai hynny hefyd yn sicrhau dyrchafiad i brif adran Cynghrair y Cenhedloedd ar gyfer ymgyrch 2025/26.