Maes awyr Caerdydd ar gau am gyfnod
- Cyhoeddwyd
Bu maes awyr Caerdydd ar gau am gyfnod fore Iau yn sgil pryderon am nwy yn gollwng.
Fe gafodd criwiau Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru eu galw i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i gynorthwyo gydag uned aerdymheru yn ffrwydro.
Mae鈥檔 debyg bod teithwyr wedi cael cais i adael rhan o鈥檙 brif adeilad tra bod y pryderon am nwy yn cael eu hymchwilio.
Yn 么l y gwasanaeth t芒n, roedd pwysedd uchel wedi cronni mewn pibell aerdymheru ac wedi rhyddhau nwy oergell.
Cafodd y maes awyr ei wagio a'i ailagor yn fuan ar 么l 11 y bore.
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi dweud eu bod wedi cael eu galw hefyd a bu'n rhaid mynd ag un person i'r ysbyty.
Mewn datganiad, nododd y maes awyr, bod digwyddiad wedi bod yn 鈥済ysylltiedig 芒 nwy yn y system aerdymheru yn ardal y gwaith adeiladu yn y derfynfa.
鈥淒iogelwch yw ein prif flaenoriaeth, felly gwagiwyd yr ardal tra bod ein t卯m yn cynnal gwiriadau diogelwch.鈥
Ychwanegodd y llefarydd: 鈥淔e wnaethon ni brofi m芒n oedi i hediadau, ond mae'r derfynfa bellach yn 么l ar agor.鈥
Mae nhw鈥檔 ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023