大象传媒

CARTEN100: 20 mlynedd o feicio o Gaerdydd i Ddinbych-y-Pysgod

CARTEN 2021Ffynhonnell y llun, CARTEN100
  • Cyhoeddwyd

Ydych chi鈥檔 un o鈥檙 2,100 o feicwyr sydd yn cymryd rhan yn reid feics CARTEN100 eleni?

Dyma daith elusennol flynyddol lle mae seiclwyr yn beicio鈥檙 100 milltir rhwng Caerdydd a Dinbych-y-Pysgod mewn diwrnod, ac eleni mae鈥檔 dathlu pen-blwydd yn 20 oed.

Heddiw, mae hi鈥檔 reid 芒 sglein broffesiynol iddi. Yn 2004, dim ond pedwar beiciwr oedd, ac roedd hi ychydig llai ffurfiol鈥

Ffynhonnell y llun, CARTEN100
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Peter Palmer (chwith) gyda gweddill y criw gwreiddiol yn 2004

鈥淣aethon ni鈥檙 reid yn 1993 鈥 fi, fy mrawd yng nghyfraith a dau ffrind, ac anghofio am y peth,鈥 eglurodd Peter Palmer, un o drefnwyr a sefydlwyr y daith. 鈥淯n ar ddeg mlynedd wedyn, 鈥榥aeth yr un gr诺p yr un daith eto, yn ein siorts a鈥檔 hen feics o鈥檙 ysgol.鈥

A dyna oedd dechrau digwyddiad blynyddol sydd erbyn hyn wedi codi bron i 拢1.5 miliwn i elusen.

Ffynhonnell y llun, CARTEN100

鈥楥yrraedd, dim rasio鈥

Nid ras feics gyffredin yw hon; does yna ddim enillydd, na rasio鈥檔 erbyn y cloc. Yn hytrach, eglura Peter, y nod yw i gael pobl allan ar y beic, ac i fwynhau鈥檙 daith:

鈥淒yw e erioed wedi bod am gyrraedd yna鈥檔 gyflym. Yn 2004, mae鈥檔 si诺r ei bod hi wedi cymryd rhyw 10-11 awr i ni. Roedd yna lot o stops; am frecwast, mewn pyb am beint, a phan ti鈥檔 agos谩u at y diwedd, mae hi鈥檔 demtasiwn i gael dau beint鈥

鈥淵r ethos wastad wedi bod ydi jyst mynd mas yna a mwynhau 鈥 dyna beth ni鈥檔 trio鈥檌 wneud nawr. Dyw e ddim am pa mor gyflym ti鈥檔 mynd. Mae am gael dydd mas neis, falle mynd n么l ar dy feic, cael sgwrs. Cyrraedd, dim rasio.鈥

Ffynhonnell y llun, CARTEN100
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Reidwyr 2005: Roedd y criw ychydig mwy yr ail flwyddyn

Ac mae hi鈥檔 reid lwyddiannus, sydd wedi tyfu鈥檔 aruthrol ers i鈥檙 pedwarawd gwreiddiol gymryd yr her. Yr ail flwyddyn, roedd yna 12 reidiwr. Yn 2006, roedd y criw yn fwy eto, ac wedi penderfynu creu crysau swyddogol ar gyfer yr achlysur.

Bellach, mae rhyw 2,000 o feicwyr yn cymryd rhan yn flynyddol, gan gasglu degau o filoedd o bunnoedd i elusen.

Ond pam beicio 100 milltir?

Ffynhonnell y llun, CARTEN100
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr harbwr yn Ninbych-y-Pysgod dan ei sang gyda beics a beicwyr ar ddiwedd y daith

Mynd yn 么l ar y beic

Wel... 108 milltir, i fod yn fanwl gywir. Mae鈥檙 daith wedi gorfod addasu dros y blynyddoedd er mwyn diogelwch y criw, wrth i鈥檙 niferoedd chwyddo. (Ond beth yw wyth milltir rhwng ffrindiau?)

Mae鈥檙 daith ar y calendr beicio, a phawb yn awyddus i gymryd yr her, hyd yn oed y rhai sydd heb feicio ers blynyddoedd. Mae Peter yn cyfaddef ei hun cyn y reid honno yn 2004 a ddechreuodd y cyfan, fod y beic wedi bod yn segur yn y garej ers blynyddoedd.

鈥淢ae 100 milltir yn eitha鈥 peth yndydi, mae鈥檔 swnio鈥檔 lot, ac mae pobl eisiau ei wneud. Ac mae e鈥檔 mynd o bwynt A i bwynt B, lle mae鈥檙 rhan fwyaf o reidiau beics yn mynd rownd mewn cylch a ti鈥檔 gorffen yn y maes parcio 鈥榥es di ei adael ychydig oriau ynghynt.

"Yn hwn, does gen ti ddim dewis ond i eistedd lawr a chael saib yn Ninbych-y-Pysgod. Mae hwnna yn bwydo i mewn i鈥檙 hwyl.鈥

Ffynhonnell y llun, CARTEN100
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cael saib ar 么l y daith

A hyd yn oed i鈥檙 di-brofiad, mae yna ddigon o gefnogaeth bellach, gyda faniau cefnogi wrth law i helpu gyda phroblemau technegol, a digon o lefydd i stopio am fwyd.

鈥淩oedd 鈥榥a wastad lefydd lle oedden ni鈥檔 stopio. Pan mae 鈥榥a 20 o bobl, mae hi鈥檔 hawdd stopio mewn caffi, wedyn roedd yna dafarn oedd yn ein bwydo pan oedd 鈥榥a ychydig gannoedd. Ond nawr fod yna 2,000 o bobl, mae hi鈥檔 anoddach.

鈥淢ae gennyn ni ein gorsafoedd ein hunain, gyda bananas, bariau egni a d诺r, a 鈥檇yn ni鈥檔 defnyddio llefydd fel clwb sgowtiaid Baglan a鈥檙 RNLI ym Mhorth Tywyn. Ry鈥檔 ni鈥檔 cyfrannu arian iddyn nhw ac maen nhw鈥檔 rhoi bwyd, ac mae鈥檔 gweithio鈥檔 gr锚t.鈥

Mae cefnogi鈥檙 ardal leol yn bwysig i鈥檙 criw, ac ynghyd 芒 chyfrannu arian i elusennau mawr, maen nhw hefyd yn rhoi arian i elusennau a grwpiau llai ar hyd y llwybr, fel clybiau chwaraeon a meithrinfeydd.

Eleni, maen nhw鈥檔 rhagweld croesi鈥檙 trothwy o 拢1.5 miliwn i elusennau dros y blynyddoedd, drwy nawdd crysau, ffi cymryd rhan a rhoddion.

Ffynhonnell y llun, CARTEN100
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 'na wastad ddigon o hwyl i'w gael!

Trefnu鈥檙 hwyl

Ar 么l cymryd rhan bob blwyddyn am 12 mlynedd, yn gwneud y trefniadau y tu 么l i鈥檙 llen mae Peter yn bennaf bellach, a hynny am fod y gwaith papur a鈥檙 trefnu wedi gorfod tyfu wrth i鈥檙 digwyddiad dyfu. Wrth gwrs, gall y reid ddim digwydd heb gydweithio agos gyda鈥檙 cynghorau sir a鈥檙 heddlu:

鈥淢ae Cyngor Sir G芒r yn gr锚t, yn ysgubo鈥檙 lonydd cefn cyn i ni reidio arnyn nhw i glirio unrhyw fwd a cherrig bach. Yn Ninbych-y-Pysgod, wrth gwrs, ti鈥檔 dibynnu ar y cyngor achos ein bod ni鈥檔 cau鈥檙 sgw芒r a鈥檙 harbwr.鈥

A beth sydd yn digwydd os oes yna rywun cael damwain?

鈥淢ae鈥檙 holl reidwyr wedi eu hyswirio, er dim ond un ddamwain fach ry鈥檔 ni wedi ei chael mewn 20 mlynedd. Mae pobl yn syrthio oddi ar y beic, ond does yna ddim llawer alla i wneud am hynny...!鈥

Ffynhonnell y llun, CARTEN100

脗'r reid yn denu miloedd o feicwyr bob blwyddyn, mae'r ap锚l yn amlwg, ac mae'r trefnwyr yn clywed straeon hyfryd gan y bobl sydd yn cymryd rhan, sydd wedi mwynhau'r profiad:

鈥淓fallai y bydd 鈥榥a rhyw dri neu bedwar e-bost gan rywun yn cwyno achos eu bod nhw鈥檔 hwyrach yn cyrraedd yr archfarchnad, ond degau o negeseuon gan bobl a gafodd y diwrnod gorau erioed.鈥

Pynciau cysylltiedig