Yr artist Claudia Williams wedi marw yn 90 oed
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r artist blaenllaw Claudia Williams yn 90 oed. Roedd yn cael ei hadnabod yn bennaf am ei darluniau lliwgar o fywyd teuluol.
Er iddi gael ei geni yn Lloegr, roedd ganddi gysylltiadau teuluol yng ngogledd Cymru ac fe dreuliodd rhan fwyaf o'i gyrfa yn peintio yma.
Aeth i Ysgol Gelf Chelsea yn 1950, a'r un flwyddyn enillodd wobr i bobl ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerffili.
Bu'n cyfrannu'n rheolaidd i arddangosfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd awdur ar ei gwaith, yr Athro Robert Meyrick o Aberystwyth, fod cyfraniad Claudia Williams yn "arwyddocaol" i gelf yng Nghymru.
Roedd Claudia Williams yn briod 芒 Gwilym Prichard a oedd hefyd yn artist o fri. Bu'r ddau yn cynnal arddangosfeydd gyda'i gilydd, gan gynnwys yng Ng诺yl Gelfyddydol Bangor.
Er i'r ddau deithio yn helaeth, gan ymgartrefu yn Ffrainc yn 1985, fe wnaethon nhw ddychwelyd i Gymru yn 2000.
Fe dderbyniodd Ms Williams sawl cydnabyddiaeth am ei gwaith - yn eu plith y Fedal Arian gan yr Academi Gelf, Gwyddoniaeth a Llenyddiaeth ym Mharis.
Yn ogystal 芒 hynny, cafodd ei gwneud yn gymrawd anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor yn 2002.
Roedd ei gwaith i'w gweld mewn sawl man nodedig yng Nghymru gyda'i harddangosfa bwerus o baentiadau o Dryweryn i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2010.
'Pendantrwydd i lwyddo'
Ychwanegodd yr Athro Meyrick y bydd ei hetifeddiaeth yn parhau a'i "bod wedi llwyddo'n rhyfeddol fel un o'r menywod prin i gael gyrfa yn y maes a magu pedwar o blant".
Ond mae hynny'n "dangos ei phendantrwydd i lwyddo fel dylunydd".
Dywedodd mai "teulu, cyfeillgarwch a ffydd" oedd y prif werthoedd yn ei phaentiadau a bod yr ymdeimlad o fod fel yr un ar y tu allan yn amlwg iawn yn ei gwaith.
"Dwi'n meddwl fod hynny wedi cyfrannu'n helaeth at ei gwaith a'r ffordd roedd y gwaith yn edrych. Fe symudodd o Surrey i Wynedd, cymuned Gymreig iawn, felly roedd hi'n teimlo ychydig ar y tu allan," meddai.
N么l yn 2016 pan oedd yn 83 oed, cafodd arddangosfa o'i gwaith ei chynnal.
Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru ar y pryd, dywedodd: "Dwi'n ystyried fy hun fel person sydd wedi ymddeol ond dwi'n methu gweld diwrnod yn y dyfodol lle na fyddai'n peintio."