Angen i Jane Dodds 'ystyried ei r么l' gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Jane Dodds yw unig Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mae Caerdydd

Yn 么l arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, mae鈥檔 rhaid i arweinydd Cymreig ei blaid 鈥渇yfyrio鈥 dros y modd y gwnaeth hi ddelio ag achos o gam-drin rhywiol pan oedd hi'n gweithio i Eglwys Loegr.

Mae adroddiad yn 2021 wedi canfod bod Jane Dodds AS, sy'n arwain y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, wedi gwneud "camgymeriad dybryd" drwy beidio trefnu cyfarfod i drafod achos penodol o gamdriniaeth.

Daw wedi i Archesgob Caergaint, Justin Welby, ymddiswyddo yr wythnos ddiwethaf am fethu a dweud wrth yr heddlu yn 2013 am droseddau rhyw John Smyth.

Mae Ms Dodds, unig Aelod Seneddol y blaid ym Mae Caerdydd, wedi derbyn bod "diffygion" ac yn dweud ei bod hi am barhau yn ei r么l.

Roedd Syr Ed Davey yn trafod y mater ar raglen 大象传媒 Sunday with Laura Kuenssberg.

Pan ofynnwyd iddo a ddylai Ms Dodds i gamu i lawr, dywedodd bod angen iddi "fyfyrio ar hyn yn ofalus iawn" a "meddwl am beth arall y gallai fod angen iddi ei wneud".

Mae Jane Dodds wedi ei chyhuddo i fethu a threfnu cyfarfod am achos o gam-drin person gafodd ei datgelu yn adroddiad A Betrayal of Trust yn 2021.

Fe wnaeth yr adroddiad yma ddatgelu bod y cyn-esgob Hubert Victor Whitsey, fu farw yn 1987, wedi gam drin pobl ifanc yn rhywiol.

Ychwanegodd Syr Ed Davey: "Rwy'n derbyn ei bod wedi ymddiheuro, ond mae hwn yn fater mor ddifrifol.

鈥淩wy'n credu bod angen iddi feddwl am beth arall y gallai fod angen iddi ei wneud.

"Rydw i wedi gwneud fy nheimladau'n glir iawn iddi am yr hyn rwy'n credu y dylai hi ei wneud ac rwy'n credu ei bod hi'n myfyrio. Gobeithio y bydd hi'n gwneud hynny."

Mewn cyfweliad ar wah芒n ar raglen Sunday Supplement 大象传媒 Radio Wales, dywedodd Ms Dodds yr oedd hi'n hyderus y byddai hi yn parhau yn ei r么l tan ar 么l etholiadau nesaf Senedd Cymru yn 2026.

'Hyder i barhau yn y r么l'

Mewn datganiad, dywedodd Ms Dodds ei bod hi wedi penderfynu i barhau yn y r么l fel Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

"Yn dilyn sgwrs ff么n gydag Ed Davey, siaradais yn uniongyrchol 芒 chydweithwyr lleol y blaid a chwrdd 芒 Bwrdd Cymru, sydd wedi mynegi eu hyder yn fy arweinyddiaeth.

"Rwyf wedi gwneud amddiyffyn plant yn rhan o fy ngwaith bywyd, ar 么l gweithio yn y maes am dros ugain mlynedd cyn mynd i mewn i wleidyddiaeth.

"Mae fy nghalon yn mynd allan i ddioddefwyr y gamdriniaeth erchyll hon. Fel y manylwyd yn yr adroddiad hwn, gweithiais yn agos gyda'r awdurdodau.

鈥淔e wnes i dderbyn ar y pryd fod diffygion wrth drefnu鈥檙 cyfarfodydd ac yn yr adroddiad roeddwn yn cydnabod y diffygion hyn.

"Rwy'n ymddiheuro i'r dioddefwyr am yr oedi y cyfrannodd hyn ato."

Dywedodd Tim Sly, Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bod y bwrdd wedi mynegi hyder yn arweinyddiaeth Ms Dodds.