Cyhuddo 31 o bobl wedi anhrefn yng Nghaerdydd y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae 31 o bobl wedi eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud 芒'r anhrefn gyhoeddus yn Nghaerdydd ym mis Mai y llynedd.
Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw i ardal Trel谩i y ddinas ar 22 Mai ar 么l i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol yn yr ardal.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 yn y gwrthdrawiad.
Cafodd ceir eu rhoi ar d芒n a gwrthrychau, gan gynnwys t芒n gwyllt, eu taflu at yr heddlu.
Dywedodd Jenny Hopkins, Prif Erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru: "Rydym wedi awdurdodi Heddlu De Cymru i gyhuddo 27 o ddiffynyddion o derfysg".
鈥淢ae pedwar diffynnydd arall wedi鈥檜 cyhuddo o achosi, neu fygwth achosi, difrod troseddol," meddai.
Mae wyth o'r rhai sydd wedi eu cyhuddo rhwng 15 ac 17 oed.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd gyda Heddlu De Cymru, Danny Richards: "Yn ystod yr anhrefn cafodd nifer o gerbydau eu rhoi ar dan, cafodd eiddo ei ddifrodi, cafodd swyddogion eu hanafu ac roedd bobl leol wedi dychryn yn eu cartrefi.
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth y gymuned leol drwy gydol yr ymchwiliad, ac rydyn ni bellach yn aros i weld be fydd canlyniad y broses gyfreithiol."
Mae disgwyl y bydd y gwrandawiadau cyntaf yn cael eu cynnal yn Llys Ynadon Caerdydd ar 19-20 Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023