大象传媒

Medal arian i Ollie Wynne-Griffith yn y parau rhwyfo

Tom George ac Ollie Wynne-Griffith (yn y cefn)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tom George ac Ollie Wynne-Griffith (yn y cefn)

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Ollie Wynne-Griffith wedi ennill medal arian fel rhan o d卯m parau rhwyfo dynion Prydain yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.

Fe wnaeth Wynne-Griffith, 30, a'i bartner Tom George orffen yn ail y tu 么l i Groatia o drwch blewyn.

Y Swistir ddaeth yn drydydd.

Dyma'r drydedd fedal i rwyfwyr o Gymru yn y gemau hyd yma, wedi i ddau sicrhau medalau efydd ddydd Iau.

Roedd Becky Wilde yn rhan o'r t卯m a ddaeth yn drydydd yn y p芒r dwy rwyf - y sculls - tra bod Matt Aldridge yn rhan o'r criw a sicrhaodd efydd yn y pedwarawd rhwyfo.

Pynciau cysylltiedig