Dysgu Cymraeg yn rhan o 'ffeindio fy ngwreiddiau'
- Cyhoeddwyd
Mae dysgu'r Gymraeg wedi bod yn rhan o "ffeindio fy ngwreiddiau" i un dyn, a bod yn rhan o'r "clwb o siaradwyr Cymraeg", meddai.
Yn wreiddiol o Aberhonddu, mae Kierion Lloyd, sydd bellach yn byw yn Rhosllannerchrugog, wedi bod yn dysgu Cymraeg gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers 2018.
Daw ar ôl i'r ganolfan gyhoeddi bod cynnydd o 11% yn nifer y bobl wnaeth ddysgu Cymraeg yn 2022-23.
Yn ogystal â gwersi traddodiadol, bellach mae sawl adnodd gwahanol ar gael i helpu dysgwyr, o apiau i gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
Angerdd dros siarad Cymraeg
Ers cychwyn gwersi pum mlynedd yn ôl, mae Mr Lloyd bellach ar gwrs lefel uwch y ganolfan.
Dywedodd bod yr "iaith yn rhan o hanes Cymru felly dwi'n teimlo mor passionate am siarad Cymraeg".
"Dwi eisiau ffeindio fy ngwreiddiau, byw fy mywyd yn y Gymraeg.
"Mae'r cwrs dysgu Cymraeg yn arbennig.
"Dwi'n edrych ymlaen at bob dosbarth," meddai.
Yn ôl ffigyrau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fe wnaeth 16,900 o bobl ddechrau dysgu'r iaith gyda nhw yn 2022-23.
Roedd 44% o'r dysgu yma yn gyrsiau ar-lein, ac mae'r cyfanswm draean yn uwch na phum mlynedd yn ôl.
Cafodd holl wersi'r ganolfan eu symud ar-lein yn sgil y pandemig, ond mae Mr Lloyd yn falch bod dosbarthiadau wyneb yn wyneb wedi dychwelyd.
"Dwi'n ffeindio bod siarad wyneb yn wyneb yn helpu fi os dwi ddim yn deall.
"Mae'r cwrs yn helpu fi godi hyder a dwi angen codi hyder mwy i ddweud y gwir."
Er ar y cwrs lefel uwch, mae Mr Lloyd yn dweud ei fod eisiau parhau i ddysgu ar "y cwrs nesa', y cwrs nesa', a'r cwrs nesa".
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
Yn ogystal â'r ystafell ddosbarth, mae Mr Lloyd yn credu bod digwyddiadau fel yr Eisteddfod a Thafwyl yn cynnig cyfleoedd pwysig iddo ymarfer.
"Dwi'n edrych ymlaen at fynd i'r digwyddiad Cymraeg, yr Eisteddfodau, Gŵyl Maldwyn, Gŵyl Cefni pethau fel hyn, achos dwi'n gallu siarad Cymraeg wyneb yn wyneb efo pobl leol, pobl 'efo acenion gwahanol, defnyddio geiriau gwahanol."
'Llenwi'r we gyda Chymreictod'
Bellach mae 'na gyfrifon Cymraeg sy'n boblogaidd iawn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol, mae Stephen Rule o Sir y Fflint nawr yn athro Cymraeg.
Mae'n creu cynnwys ac yn rhannu cyngor i ddysgwyr ar gyfryngau cymdeithasol o dan yr enw Doctor Cymraeg.
Ei obaith yw "llenwi'r we gyda Chymreictod".
Dywedodd Mr Rule mai gweld dysgwyr yn cael eu drysu ar gyfryngau cymdeithasol wnaeth ei ysbrydoli i ddechrau.
“Wnes i ffeindio’r grwpie 'ma ar-lein oedd yn rhannu a gofyn cwestiyne, a bob hyn a hyn byse yna 15 person efo 17 ateb gwahanol.
"Pam na allwn i fod yn one-stop shop i helpu pobl ac i rannu'r adnoddau gwych sydd allan 'ne, a hefyd dod yn rhan o hynne?
"Mae unrhyw iaith yn anodd, a dwi’n meddwl ti angen bach o hiwmor, bach o lightheartedness ar adegau."
Diwedd cwrs Duolingo
Mae Duolingo yn boblogaidd gyda dysgwyr hefyd, gan gynnig cwrs dysgu Cymraeg am ddim i ddefnyddwyr ar draws y byd.
Fe gafodd yr ap ei feirniadu ar ddiwedd 2023 ar ôl cyhoeddi na fyddai'r cwrs yn cael ei ddiweddaru bellach.
Roedd hynny er i'r ap gyhoeddi mai Cymraeg oedd yr iaith wnaeth dyfu gyflymaf ymysg defnyddwyr yn y DU yn 2020.
Mae Mr Rule yn falch o fod wedi helpu datblygu cwrs Cymraeg Duolingo, ond ei gyngor ef yw fod pawb yn dysgu'n wahanol.
"Mae pawb yn unigolyn, a ma’ be sy'n gweithio i un ddim yn gweithio i rywun arall.
"Fy nghyngor i ydi i drio unrhyw beth, a phopeth."