大象传媒

Blair Murray i ennill ei gap cyntaf yn erbyn Fiji

Blair MurrayFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Blair Murray yn gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei fam

  • Cyhoeddwyd

Bydd asgellwr y Scarlets Blair Murray yn ennill ei gap cyntaf i Gymru ar 么l cael ei gynnwys yn y 15 cychwynnol i herio Fiji yng Nghyfres yr Hydref yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Cafodd Murray, 23, ei eni a'i fagu yn Seland Newydd ond mae'n gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei fam, sy'n wreiddiol o Donyrefail.

Bydd y canolwr Max Llewellyn yn ennill ei ail gap, tra bo'i gyd-chwaraewyr yng Nghaerloyw - Tomos Williams a Gareth Anscombe - yn fewnwr a maswr.

Gydag Anscombe yn cymryd y crys rhif 10, bydd Ben Thomas yn bartner i Llewellyn yn y canolwyr.

Ymysg y blaenwyr, mae prop Caerfaddon Archie Griffin wedi cael ei enwi er iddo gael diagnosis o broblem ar y galon, o'r enw pericarditis.

Mae'r chwaraewyr ail-reng Will Rowlands ac Adam Beard yn dychwelyd ar 么l colli'r gemau yn erbyn De Affrica ac Awstralia yn yr haf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Warren Gatland dan bwysau i wella canlyniadau ar 么l naw colled o'r bron

Ond dim ond ar y fainc mae'r blaenasgellwr Jac Morgan, ag yntau wedi bod yn delio gydag anaf bychan.

Dewi Lake sydd wedi ei ddewis fel capten ar gyfer Cyfres yr Hydref, er i Morgan ddychwelyd i'r garfan ar 么l colli'r daith i Awstralia oherwydd anaf.

Mae hi wedi dod i'r amlwg hefyd y bydd y cyn-ddyfarnwr Nigel Owens yn ymuno 芒 th卯m hyfforddi Cymru ar ddyddiau'r gemau yng Nghyfres yr Hydref, a hynny fel ymgynghorydd.

Ar 么l colli eu naw g锚m brawf ddiwethaf, mae cryn bwysau ar Warren Gatland i sicrhau fod canlyniadau yn gwella.

Byddai 10 colled yn olynol yn gyfartal 芒 rhediad gwaethaf Cymru erioed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hon fydd g锚m ryngwladol gyntaf Gareth Anscombe ers dros flwyddyn, oherwydd anaf

Dywedodd Gatland: "Mae gennym wir gystadleuaeth yn y garfan ac felly 'roedd dewis y t卯m yn galed iawn.

"Fe drafodon ni nifer o safleoedd am gyfnod maith ac 'ry鈥檔 ni鈥檔 hapus iawn gyda chydbwysedd y t卯m sydd wedi cael ei ddewis yn y pendraw.

"Mae 'na gymysgedd braf o brofiad a ieuenctid yn y t卯m yma fydd yn wynebu her gwirioneddol Fiji ddydd Sul.

"Ry鈥檔 ni鈥檔 gwybod pa mor beryglus y gall Fiji fod ac felly mae鈥檔 rhaid i ni fod yn gorfforol, effeithiol a digyfaddawd am yr holl 80 munud."

T卯m Cymru

Cameron Winnett; Mason Grady, Max Llewellyn, Ben Thomas, Blair Murray; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Gareth Thomas, Dewi Lake (capt), Archie Griffin, Will Rowlands, Adam Beard, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Aaron Wainwright

Eilyddion: Ryan Elias, Nicky Smith, Keiron Assiratti, Christ Tshiunza, James Botham, Jac Morgan, Ellis Bevan, Sam Costelow.

Gemau Cyfres yr Hydref Cymru

  • Cymru v Fiji - 13:40 dydd Sul, 10 Tachwedd

  • Cymru v Awstralia - 16:10 dydd Sul, 17 Tachwedd

  • Cymru v De Affrica - 17:40 dydd Sadwrn, 23 Tachwedd