Beirniadu 'effaith dorcalonnus' saga Ffos-y-Fran
- Cyhoeddwyd
Dylai'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "camreolaeth epig" o lofa Ffos-y-Fran ddim cael digwydd eto i unrhyw gymuned yng Nghymru, medd un o bwyllgorau'r Senedd.
Maen nhw'n dweud y bydd yna "graith barhaol" ar dref Merthyr Tydfil os na fydd y safle enfawr yn cael ei adfer yn llawn.
Mae'r adroddiad yn cynnwys beirniadaeth lem o'r datblygwr, ac yn dweud i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau eraill fethu 芒 gweithredu wedi rhybuddion blaenorol yngl欧n 芒 dyfodol o safle.
Dywedodd cwmni cloddio Merthyr (South Wales) Ltd eu bod wedi cael "cyfarfod adeiladol" gyda rhanddeiliaid, ac na fyddan nhw'n gwneud sylw pellach "nes bod y cynllun adfer diwygiedig wedi鈥檌 gwblhau a鈥檌 gyflwyno i Gyngor Merthyr Tudful ei ystyried".
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "ystyried canfyddiadau ac awgrymiadau'r adroddiad", tra bo Cyngor Merthyr Tudful yn dweud eu bod yn "nodi'r argymhellion".
- Cyhoeddwyd22 Mai
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023
Saga Ffos-y-Fran yw'r diweddara' ar restr hir o "addewidion yn cael eu torri" yngl欧n ag adfer safleoedd glo brig yng Nghymru, yn 么l pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a seilwaith y Senedd.
"Clywed gan breswylwyr am yr effaith y mae鈥檙 safleoedd hyn wedi鈥檌 chael ar eu bywydau fu鈥檙 agwedd fwyaf torcalonnus ar ein hymchwiliad," meddai eu hadroddiad.
"Maent wedi cael effaith ddifrifol ar fywydau, iechyd, llesiant a chartrefi pobl dros flynyddoedd lawer, os nad degawdau."
Roedd Ffos-y-Fran, wnaeth gau fel glofa ym mis Tachwedd 2023, yn "symbol o fethiannau'r system," ychwanegodd aelodau'r pwyllgor.
Roedd y datblygwr wedi corddi ffrae聽- a her gyfreithiol gan ymgyrchwyr hefyd - ar 么l parhau i balu a gwerthu glo am dros flwyddyn ar 么l i'w ganiat芒d cynllunio ddod i ben.
Mae'r cwmni nawr yn gweithio ar gynllun gwahanol - a llawer rhatach - o ran adfer y safle, ar 么l rhybuddio nad oes ganddo gyllid digonol i gwblhau鈥檙 gwaith fel y cytunwyd yn wreiddiol.
Mae Alyson a Chris Austin yn byw'n agos i'r lofa, sydd yr un maint ag oddeutu 400 cae p锚l-droed, a buon nhw'n rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor.
"Mae gennym bryderon enfawr am ddyfodol Ffos-y-Fran," meddai'r ddau.
"Rydym yn teimlo bod ein hawdurdod lleol, Llywodraeth Cymru, ac asiantaethau鈥檙 llywodraeth ar bob lefel wedi ein gadael yn agored i niwed.
"Dylai鈥檙 cwmni mwyngloddio gadw at ei addewid o adfer y safle鈥檔 llawn ac ni ddylai'r cyngor adael iddo ddianc a鈥檔 gadael gyda thir peryglus a diffaith."
Gallai glanhau'r safle yn llwyr gostio hyd at 拢120m, ar sail gwthio tri o domenni gwastraff mawr yn 么l i'r pwll agored, gan droi'r ardal yn 么l i gaeau gwyrdd ar gyfer y gymuned.
Ond clywodd y pwyllgor mai'r opsiwn sydd bellach dan ystyriaeth - fel ohebwyd yn gyntaf gan 大象传媒 Cymru - yw gadael ardal o dd诺r o fewn y gwagle mawr.
Mae trigolion lleol wedi disgrifio'r syniad fel llyn allai fod yn "beryglus" a "llygredig".
Mae'r cwmni am ddefnyddio 拢15m sydd mewn cyfrif banc yng ngofal y cyngor lleol, a gafodd ei sefydlu i sicrhau bod peth o arian y cwmni'n cael ei warchod ar gyfer y gwaith adfer.
"Fel cynifer o rai eraill, [mae'r cwmni] wedi cymryd elw o鈥檙 safle ac mae'r arian a gafodd ei addo ar gyfer gwaith adfer ar goll," meddai'r pwyllgor.
Clywodd eu hymchwiliad i'r cwmni dalu bron i 拢50m mewn difidendau a breindaliadau o鈥檙 busnes ers 2017.
Mae'r adroddiad yn dweud bod gan yr awdurdod lleol bellach "fawr o ddewis heblaw derbyn yr hyn y mae gweithredwr y safle yn barod i鈥檞 gynnig".
Ychwanegodd bod y "canlyniad annerbyniol" hyn yn dilyn patrwm a welwyd mewn safleoedd glo brig eraill, lle roedd cynghorau'n cael eu dal "mewn sefyllfa anodd", gan wynebu baich ariannol enfawr os yw'r cwmn茂au maes o law yn penderfynu "cerdded i ffwrdd".
Er hynny, mae'r feirniadaeth yn ymestyn at Gyngor Merthyr Tydfil, Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill fu ynghlwm 芒 goruchwylio gwaith y lofa dros ddau ddegawd.
Roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2014 wedi nodi "rhybuddion sylweddol a chlir" yngl欧n 芒 phroblemau posib yn Ffos-y-Fran "oherwydd sicrwydd bond annigonol".
Roedd canllawiau ymarfer da gan yr Awdurdod Glo yn 2016 hefyd wedi argymell y dylid ailasesu鈥檙 sefyllfa o ran cyllido adfer safleoedd glo brig yn flynyddol.
"Mae rhaid i ni amau a yw鈥檙 awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru wedi cymryd pob cam angenrheidiol i geisio canlyniad gwell i鈥檙 gymuned leol," meddai'r pwyllgor.
Maen nhw'n galw am gamau gweithredu llymach pan fod rheolau cynllunio yn cael eu torri, a mwy o lais i bobl leol mewn penderfyniadau yn ymwneud 芒 glofeydd - gan gynnwys elfen o berchnogaeth gan y gymuned mewn unrhyw brosiectau yn y dyfodol.
Trigolion 'wedi鈥檜 methu鈥檔 llwyr'
Tra'i bod hi'n annhebygol y gwelwn ni lofeydd brig newydd yn cael eu caniat谩u yng Nghymru yn y dyfodol oherwydd cyfreithiau newid hinsawdd, rhybuddiodd y pwyllgor y gallai'r ymdrech i adfer hen domenni glo arwain at broblemau tebyg, yn enwedig lle mae cwmn茂au yn disgwyl gwerthu glo er mwyn ariannu'r gwaith o sicrhau bod y tomenni'n ddiogel.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Llyr Gruffydd AS bod trigolion sy'n byw wrth ymyl safleoedd glo brig yn teimlo "eu bod wedi鈥檜 methu鈥檔 llwyr gan yr awdurdodau cyhoeddus sydd i fod i鈥檞 hamddiffyn".
Yn achos Ffos-y-Fran, roedd "amser yn prysur ddod i ben i sicrhau鈥檙 hyn a addawyd i鈥檙 gymuned leol".
"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac awdurdodau lleol eraill, i ddysgu鈥檙 gwersi o鈥檙 adroddiad hwn, fel na fydd y camgymeriadau hyn byth yn cael eu hailadrodd" meddai.
Dywedodd Merthyr (South Wales) Ltd iddo ddod i gytundeb ffurfiol gyda'r cyngor lleol "i gychwyn ar raglen adfer dros dro" ar y safle.
Gallai hyn weld 54 hectar (133 erw) o dir, i'r gorllewin o'r gwagle mawr yn cael ei adfer.
Yn ymateb i'r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae MSW yn parhau i ymgysylltu 芒 rhanddeiliaid, ac fe gynhaliwyd cyfarfod adeiladol ar 31 Gorffennaf yn cynnwys yr holl randdeiliaid.
"Bu ymgynghorwyr a benodwyd gan MSW yn briffio'r cyfarfod ar y cynnydd hyd yma gyda'r cynllun adfer diwygiedig, ac mae cyfarfod pellach wedi'i gynllunio ar gyfer diwedd mis Medi i ddiweddaru'r rhanddeiliaid ar gynnydd y cynllun.
"Fel y rhagwelwyd, mae lefel y d诺r yn y pwll glo wedi parhau i ostwng drwy gydol misoedd yr haf, gyda lefel y d诺r presennol tua phedwar metr yn is na鈥檙 lefelau a fonitrwyd yn ystod misoedd gwlyb y gaeaf.
"Ni fydd unrhyw sylw pellach nes bod y cynllun adfer diwygiedig wedi鈥檌 gwblhau a鈥檌 gyflwyno i Gyngor Merthyr Tudful ei ystyried.鈥
'Ymateb maes o law'
Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful mewn datganiad fod y pwyllgor "yn canmol y cyngor am ymateb yn gadarnhaol ac yn adeiladol i'r ymchwiliad a nodir yr argymhellion".
"Mae'r argymhellion hyn yn adlewyrchu gofynion deddfwriaeth cynllunio sy'n cael eu gweithredu fel rhan o'r drefn o benderfynu ar geisiadau cynllunio."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "ystyried canfyddiadau ac awgrymiadau'r adroddiad ac ymateb maes o law".