Degawd o brentisiaethau'r Urdd - 1,000 wedi elwa
- Cyhoeddwyd
Mae'r Urdd yn dweud bod 1,000 o bobl wedi elwa yn y deng mlynedd ers sefydlu eu cynllun prentisiaeth.
Mae'r mudiad yn cynnal digwyddiadau yn Llandudno ac Abertawe i nodi'r garreg filltir yr wythnos hon.
"Mae'r cynllun wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i lawer iawn o unigolion," meddai pennaeth prentisiaethau'r Urdd, Catrin Davis.
"Mae'n cynnig cyfleon i bobl ifanc a phobl o bob oed ymgymryd 芒 hyfforddiant - nid yn unig trwy gyfrwng y Gymraeg ond hefyd yn ddwyieithog... mae wedi rhoi cyfleoedd i bobl falle oedd yn ddihyder, neu eisiau ailafael yn eu sgiliau iaith," meddai.
Fe ddechreuodd y cynllun yn y sector chwaraeon, ond mae bellach yn cynnig cyfleoedd hyfforddi mewn nifer o feysydd gwahanol gan gynnwys y sector hamdden, gwaith ieuenctid a gofal plant.
'On i'n berson rili tawel yn yr ysgol'
Ymunodd Liam Higgins o Gaerdydd 芒'r cynllun ar 么l bod yn gwirfoddoli gyda'r Urdd ers blynyddoedd.
"Y bwriad oedd i fynd i'r brifysgol i astudio seicoleg, ond yn ystod yr haf yn y chweched dosbarth, nethon nhw gynnig y cyfle i fod yn brentis 'da nhw," meddai.
Mae'n ychwanegu bod y profiad wedi bod o fudd iddo.
"Dwi wedi elwa o'r cynllun 'ma trwy ddatblygu sgiliau cyfathrebu - on i'n berson rili tawel yn yr ysgol, ddim yn lico siarad o flaen grwpiau.
"Hefyd nath e helpu fi i ddatblygu sgiliau trefnu - sgiliau byswn i angen mewn swyddi gwahanol hefyd - siarad 芒 phobl, trefnu digwyddiadau."
Mae Liam bellach yn swyddog datblygu'r Gymraeg yng Ngholeg y Cymoedd.
"On i gyda'r Urdd am ryw ddeng mlynedd," meddai
"Nes i benderfynu mae angen amser i newid a thrio mynd 芒 sgiliau i rywle arall.
"Ar 么l Covid wnaethon nhw symud fi i'r cymoedd a dyna ble oedd y cyswllt gyda Choleg y Cymoedd.
"O fewn y swydd dwi'n trefnu digwyddiadau i'r myfyrwyr, rhoi'r cyfle iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg mewn ffordd mwy anffurfiol - ddim tiwtor ydw i."
Mae'r Urdd yn dweud eu bod yn gweithio gyda dros 80 o gyflogwyr ar hyd a lled Cymru, ac yn gobeithio datblygu'r gwasanaeth yn y dyfodol.
"Mae ganddon ni 180 prentis ar hyn o bryd, a'r uchelgais yw gallu cynnig prentisiaeth i unrhyw un, yn unrhyw fan yng Nghymru o fewn y sectorau penodol," meddai Catrin Davis.
"Mae gennym ni ddarpariaeth ar draws Cymru ond mae rhai sectorau ble mae angen i ni adeiladu gweithlu - yn enwedig gyda'r sector gofal plant, ble mae ganddon ni fwy o weithlu yn y gogledd a'r gorllewin, a hoffwn i allu datblygu hwnna i fewn i'r de'r hefyd."
Agweddau'n newid
Mae Liam Higgins yn dweud bod agweddau yn newid tuag at brentisiaethau, a bod pobl ifanc yn sylweddoli nad oes rhaid mynd i'r brifysgol.
"Mae lot mwy o bobl yn edrych mewn i brentisiaethau yn enwedig dyddiau 'ma," meddai
"Mae pobl eisiau swyddi. felly o ran prentisiaethau mae cyfle rili dda i fynd ati i hybu sgiliau sydd 'da chi'n barod.
"Fi wastad yn dweud i'r myfyrwyr, os o'n i'n siarad 芒 fi fy hun pryd o'n i'n 16, a dweud bod pob swydd sydd 'da ti ar 么l gadael ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg, buaswn i wedi chwerthin.
"Dyna be fi'n trio cael draw i'r myfyrwyr yw defnyddia dy Gymraeg, paid poeni am safon, paid colli fe, a gyda rhywbeth fel y prentisiaeth gyda'r Urdd mae na gyfle rili dda i wneud rhywbeth chi'n mwynhau, a hefyd dal defnyddio'r iaith mewn ffordd ble chi'n hybu'r dyfodol."