大象传媒

All Cymru barhau 芒'u dechrau perffaith yn erbyn Wcrain?

Disgrifiad,

Angharad James yn edrych ymlaen at ei g锚m gyntaf fel capten Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae t卯m p锚l-droed merched Cymru wedi cael y dechrau perffaith i rowndiau rhagbrofol Euro 2025.

Maen nhw wedi chwarae dwy g锚m, ac wedi cael dwy fuddugoliaeth swmpus.

Ar 么l ennill o 4-0 yn erbyn Croatia ar y Cae Ras yn Wrecsam, 6-0 oedd y sg么r yn erbyn Kosovo yn Podujevo.

Be' sydd nesaf i d卯m Rhian Wilkinson ydy dwy g锚m mewn llai nag wythnos yn erbyn Wcr谩in - yn gyntaf yn Llanelli nos Wener, gyda'r ail mewn stadiwm niwtral yng Ngwlad Pwyl nos Fawrth.

Mae rhestr detholion y byd yn awgrymu mai'r gemau hyn fydd y rhai anoddaf yn y gr诺p i Gymru, gan mai dim ond dau safle sy'n gwahanu'r ddwy wlad.

Mae Cymru yn safle rhif 32 gyda Wcr谩in yn safle rhif 34.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraewyr Cymru yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Croatia

Mae'r rheolwr Rhian Wilkinson wedi gallu dewis ei charfan gryfaf fwy neu lai ar gyfer y ddwy g锚m.

Yr unig chwaraewyr sydd ddim ar gael oherwydd anafiadau yw Elise Hughes a Hannah Cain.

Y newyddion da ydy fod yr ymosodwr Carrie Jones a'r golwr Safie Middleton-Patel yn holliach unwaith eto, ac ar gael i chwarae.

Angharad James fydd capten Cymru ar gyfer y g锚m nos Wener, gyda Wilkinson dal heb benderfynu pwy fydd yn gwneud y r么l yn barhaol ar 么l i Sophie Ingle gamu lawr fel capten cyn dechrau'r ymgyrch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Rhian Wilkinson ei phenodi'n rheolwr ar Gymru ym mis Chwefror

"Mae hi'n llawn haeddu'r cyfle," meddai Wilkinson.

"Mae hi'n wych gyda'r chwaraewyr ifanc, ac mae hi'n arweinydd naturiol.

"Mae hi wedi cael gyrfa anhygoel a mae hi wedi bod yn bleser ei gweld hi'n chwarae cystal i Seattle Reign yn yr Unol Daleithiau dros y misoedd diwethaf.

"Yn amlwg mae 'na bosibilrwydd y gall Angharad wneud y r么l yn barhaol, ond dwi ddim eisiau gwneud unrhyw benderfyniad yn rhy sydyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Wcr谩in yn y trydydd safle yn y gr诺p rhagbrofol ar 么l dwy g锚m

Felly be ydyn ni'n ei wybod am d卯m Wcr谩in?

Ar bapur, nhw ydy'r bygythiad mwyaf i Gymru yn y gr诺p, ond fe gafon nhw ganlyniad siomedig yn eu g锚m ddiwethaf, yn colli 1-0 yn erbyn Croatia.

Does ganddyn nhw ddim enwau cyfarwydd yn chwarae iddynt, ond mae angen i Gymru fod yn wyliadwrus o Inna Hlushchenko sy'n chwarae yn y llinell flaen.

Dim ond 20 oed ydy hi ond mae hi'n barod wedi creu argraff tra'n chwarae ar y llwyfan rhyngwladol, a hefyd i'w chlwb Nice yn Ffrainc.

Yn wahanol i Gymru mae Wcr谩in wedi chwarae yn un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol - fe lwyddon nhw i gyrraedd Euro 2009 yn Y Ffindir.

Ond ers hynny tydyn nhw heb ddod yn agos at gyrraedd Euros arall, na Chwpan y Byd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cymru ar frig y gr诺p ar 么l dwy g锚m gyntaf yr ymgyrch

Mae hi'n bwysig atgoffa ein hunain o sut mae cyrraedd Euro 2025, achos mae hi'n eithaf cymhleth.

Gan fod Cymru yn yr ail haen (Adran B) does dim modd iddyn nhw gyrraedd y rowndiau terfynol yn awtomatig.

Byddan nhw'n chwarae yn y gemau ail-gyfle os ydyn nhw'n llwyddo i orffen yn y tri safle uchaf yn y gr诺p - ac mae hynny'n edrych y debygol yn barod.

Ond er mwyn cael llwybr haws yn y gemau ail-gyfle, mae angen iddyn nhw orffen ar y brig.

Fe awn nhw gam yn nes at wneud hynny gyda dau ganlyniad da dros y dyddiau nesaf.

Bydd y ddwy g锚m rhwng Cymru a Wcr谩in yn fyw ar 大象传媒 Radio Cymru a 大象传媒 Sounds.