大象传媒

Wyddoch chi am gysylltiadau Cymreig y pethau hyn?

  • Cyhoeddwyd

Weithiau, mae鈥檙 pethau rydyn ni鈥檔 eu gweld neu鈥檔 eu defnyddio鈥檔 ddyddiol yn dod yn gymaint o ran o鈥檔 bywydau dydyn ni ddim yn meddwl am eu dechreuadau. Pryd y daeth y pethau hyn i fodolaeth? Pwy ddatblygodd y fath beth?

Efallai y gwnewch chi synnu bod ambell un o鈥檙 rhain a鈥檜 gwreiddiau yn nwfn yng Nghymru:

1. Y symbol hafal =

Mathamategwr a meddyg o Ddinbych-y-Pysgod oedd Robert Recorde ac ef oedd y person cyntaf i ddefyddio鈥檙 symbol = i nodi鈥檙 ystyr 鈥測n hafal i鈥 mewn hafaliadau mathamategol. Am ei ddewis i ddefnyddio鈥檙 ddwy linell lorweddol baralel i ddynodi hyn dywedodd 鈥渘ad oedd unrhyw ddau beth yn gallu bod yn fwy hafal.鈥

Mae鈥檙 ymddangosiad cyntaf y gwyddir amdano o hafaliad mewn nodiant cyfoes i鈥檞 gweld yn llyfr The Wheltstone of Witte gan Recorde, sef 14x + 15= 71 a gyhoeddwyd ym 1557.

Ffynhonnell y llun, Basher Eyre
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cofeb i Robert Recorde yn eglwys y Santes Fair yn Ninbych-y-Pysgod

2. Smeltio haearn

Cawsai David Thomas (1794-1882) ei ystyried yn un o weithwyr haearn mwyaf blaenllaw y DU yn ystod ei oes, ac ef ddyfeisiodd y broses a fyddai鈥檔 symud y Chwyldro Diwydiannol yn ei flaen.

Roedd yn gweithio yng Ngweithfeydd Ynyscedwyn yn Ystradgynlais yn 1837. Yn fanno fe ddefnyddiodd broses chwyth poeth (hot blast) i smeltio mwyn haearn a glo carreg/athrasit gan greu haearn anthrasit. Chwyth poeth yw pan gaiff aer sydd wedi ei boethi ei chwythu mewn i ffwrnais chwyth.

Roedd haearn anthrasit eisoes wedi cael ei batentio gan Edward Martin o Dreforys ym 1804.

3. Siopa drwy鈥檙 post

Yn y DU mae 80% o bobl yn siopa arlein, ac roedd siopa arlein yn cyfri am 26.5% o gyfanswm gwerthiant yn 2022 ac felly rydym yn hen gyfarwydd 芒鈥檔 heitemau newydd yn ein cyrraedd drwy鈥檙 post. Ond mae鈥檙 arfer o siopa drwy鈥檙 post yn deillio鈥檔 么l mor bell 芒 1861!

Ffynhonnell y llun, Penny Mayes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Warws Pryce-Jones yn y Drenewydd

Entrepreneur o鈥檙 enw Pryce Pryce-Jones (1834-1920) sefydlodd y busnes siopa drwy鈥檙 post (mail-order shopping) cyntaf. Cafodd Pryce-Jones ei eni yn Llanllwchaearn ger y Drenewydd. Yn fan hyn y sefydlodd ei siop a busnes gwerthu brethyn ym 1856.

Yn fuan wedi dyfodiad y rheilffyrdd i Drenewydd ym 1859 fe dyfodd busnes Pryce-Jones yn sylweddol. Ym 1861 creodd Pryce-Jones y catalog siopa drwy鈥檙 post cyntaf. Fe chwyldrodd y catalog y ffordd yr oedd pobl yn siopa yn enwedig i鈥檙 rheiny a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig ac ymhell o Gymru.

Ymhlith ei gwsmeriaid roedd y Frenhines Fictoria, Florence Nightingale a theuluoedd brenhinol yn Ewrop. Mae鈥檔 debyg fod ganddo dros 200,000 o gwsmeriaid o amlgylch y byd.

4. Cyfreithloni amlosgi

Disgrifiad o鈥檙 llun,

William Price fel meddyg ifanc, portread o William Price (c.1870) a William Price gyda'i ffrind Robert Anderson

Roedd y meddyg Dr William Price (1800-1893) o Forgannwg yn un o ffigyrau amlycaf Cymru yn y 19eg ganrif, ac yn adnabyddus am ei genedlaetholdeb Cymreig, Derwyddaeth, Siartaeth a鈥檌 ecsentirgrwydd. Ond efallai un o鈥檙 dylanawdau mwyaf gafodd oedd ei r么l yng nghyfreithloni amlosgi (cremation).

Pan fuodd ei fab ef farw ym 1884 fe amlosgodd Price ei gorff. Cafodd ei arestio gan bobl a gredai fod amlosgi鈥檔 anghyfreithlon yn y DU a鈥檌 ddwyn o flaen ei well. Ond llwyddodd Price i argyhoeddi鈥檙 llys nad oedd unrhyw gyfraith yn bodoli a oedd yn gwahardd amlosgi. Yn sgil ei fuddugoliaeth yn y llys, bron i ddegawd wedi ei farwolaeth crewyd Deddf Amlosgi 1902.

Mae cerflun ohono ar sgw芒r pentref Llantrisant, Bro Morgannwg.

5. Yr olwyn sb芒r

Ffynhonnell y llun, MCJ Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hysbyseb am olwyn sb芒r Stepney

Pan ddaeth gyrru ceir modur yn gyffredin ar droad yr ugeinfed ganrif roedd y lonydd dal yn rhai gwael i deithio arnynt. Yn aml achosai hoelion pedolau ceffyl oedd wedi dod yn rhydd gryn drafferth i fodurwyr gan dyllu teiars. Yn y cyfnod hwn, nid oedd ceir yn dod gydag olwyn sb芒r ac roedd atgyweirio鈥檙 difrod ar ochr y ffordd yn drafferthus ac yn gofyn am offer arbenigol ac arbenigedd.

Yn 1904 fe welodd dau frawd o Lanelli, Tom a Walter Davies, gyfle busnes. Roeddent yn rhedeg siop haearnwerthwr yn y dref ac fe ddyfeision nhw yr hyn rydyn ni鈥檔 ei adnabod heddiw fel yr olwyn sb芒r.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa ac Oriel Parc Howard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enghraifft o'r olwyn sb芒r gyda llyfr a llun am y brodyr yn amgueddfa Parc Howard, Llanelli

Teiar llawn aer ar rimyn metel cylchog a oedd yn clipio ar y teiar fflat oedd y ddyfais oedd yn cael ei hadnabod fel y Stepney Spare Wheel. Fe鈥檌 henwyd yn Stepney ar 么l y stryd yn Llanelli lle鈥檙 oedd eu gweithdy.

Mewn rhai gwledydd caiff yr olwyn sb芒r dal ei hadnabod fel y 鈥楽tepney鈥.

6. Anadliedydd electronig (Electronic breathalyser)

Yn 1967 daeth cyfraith i rym a oedd yn ei gweud hi鈥檔 drosedd i yrru cerbyd pe bai gan y sawl a oedd wrth y llyw fwy nag 80mg o alcohol ym mhob 100ml o鈥檌 waed, sef Deddf Diogelwch Ffyrdd 1967. Dyma鈥檙 flwyddyn y cafodd anadliedydd ei gyflwyno鈥檔 gyntaf. Ond nid fel yr un rydyn ni鈥檔 gyfarwydd ag o heddiw.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Tom Parry Jones gyda'r anadleidydd electronig cyntaf

Cafodd yr anadliedydd electronig ei ddatblygu yng Nghaerdydd yn 1976. Roedd Dr Tom Parry Jones o Garreglefn, Ynys M么n, yn gweithio i Lion Laboratories gyda g诺r o鈥檙 enw Bill Ducie. Gyda鈥檌 gilydd fe ddatblygon nhw y fersiwn electronig o鈥檙 anadliedydd sydd wedi achub cynifer o fywydau.

Derbyniodd Dr Jones OBE ym 1986 a chafodd ei urddo i鈥檙 Orsedd yn 1997.

7. Gwyntyll Covid Brys (Emergency Covid Ventilator)

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwyntyll Covid Brys

Dyluniwyd y gwyntyll Covid brys yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin gan Dr Rhys Thomas yn 2020. Cafodd y ddyfais, Emergency Covid-19 C-PAP, ei hadeiladu ganddo ef a鈥檙 peirianwyr Maurice Clarke yn Rhydaman.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Rhys Thomas

Cafodd y ddyfais ei threialu ym Mangladesh gan nad oedd digon o gleifion yng Nghymru ar y pryd. Roedd canlyniadau鈥檙 treialon yn gadarnhaol. Dywedodd Dr Thomas nad bwriad y ddyfais yw cymryd lle gwyntyllau mewn unedau gofal dwys, ond yn hytrach helpu cleifion cyn bod angen mynd i uned gofal dwys yn y gobaith na fyddai angen y lefel yna o ofal arnynt.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y ddyfais yn cael ei threialu ar gleifion Covid-19 ym Mangladesh

Pynciau cysylltiedig