大象传媒

T芒n eto ar fferm ganabis ar safle hen ysgol

T芒n 17 Gorffennaf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd to'r adeilad ei ddifrodi gan y t芒n gwreiddiol ddydd Mercher 17 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae criwiau t芒n wedi gorfod dychwelyd i ddiffodd fflamau ar safle hen ysgol yng Ngheredigion a gafodd ei defnyddio i dyfu canabis, wythnos wedi'r t芒n gwreiddiol.

Cafodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i Heol Penwalle, yn Llandysul, tua 20:53 nos Iau.

Dywed y gwasanaeth bod fflamau wedi ailgynnau gan fod colsion (embers) wedi mudlosgi ers y t芒n mawr a achosodd i do'r adeilad gwympo ddydd Mercher 17 Gorffennaf.

Fe gafodd criwiau eu hanfon o Landysul a Chastellnewydd Emlyn, i roi d诺r ar y fflamau cyn gadael y safle am 21:50.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yn bosib i weld mwg y t芒n gwreiddiol o bellter

Daeth i'r amlwg ddechrau Gorffennaf fod yr adeilad wedi ei ddefnyddio fel safle i gynhyrchu canabis.

Fe blediodd dau ddyn yn euog ar 9 Gorffennaf i gyhuddiadau'n ymwneud 芒 chyffuriau, ar 么l i gwerth 拢2m o ganabis gael ei ddarganfod yn yr hen ysgol.

Daeth yr heddlu o hyd i tua 1,500 o blanhigion canabis yno ar 4 Gorffennaf.