Cymru 'mewn sefyllfa fregus' yn sgil diffyg plannu coed
- Cyhoeddwyd
Mae diffyg plannu coed yng Nghymru yn "ddigalon" ac mae'n effeithio ar ddyfodol economaidd ac amgylcheddol y wlad, yn 么l un arbenigwr coedwigaeth.
Mae ffigyrau yn dangos fod 640 hectar o goetir newydd wedi cael ei greu yng Nghymru y llynedd - gostyngiad sylweddol o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol, a dim ond 12% o darged blynyddol Llywodraeth Cymru o 5,000 hectar.
Yn 么l Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd (Confor), mae Cymru yn "mynd am yn 么l", ac mae cyflymu'r broses o blannu coedwigoedd newydd yn "gwbl hanfodol" os am gyrraedd targedau amgylcheddol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid er mwyn llunio strategaeth goed ddiwydiannol i gefnogi a datblygu'r diwydiant.
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2023
Mae ystadegau Forest Research fis diwethaf yn dangos fod 640 hectar o goetir newydd wedi ei greu yng Nghymru yn 2023-24, lawr o bron i 1,200 hectar yn y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Elaine Harrison, rheolwr Confor yng Nghymru: "Mae rhain wir yn ffigyrau digalon, yn enwedig o ystyried y darlun ar hyd gweddill y Deyrnas Unedig.
"Mae'r Alban a Lloegr wedi plannu llawer mwy o goed o'i gymharu 芒'r flwyddyn gynt, ac mae'r cyfanswm ar hyd y DU yn sylweddol uwch hefyd.
"Ond mae Cymru yn mynd am yn 么l - ac mae hyn am gael effaith ar ein heconomi gwledig, lle gallwn ni fod yn creu swyddi a thyfiant yn ogystal 芒 helpu'r amgylchedd, gan ein bod ni angen plannu llawer mwy o goed i fynd i'r afael 芒'r argyfwng hinsawdd."
Esboniodd Ms Harrison, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, does gan Gymru ddim system i ganfod ac asesu ardaloedd fyddai o bosib yn gallu cael eu hadfer a'u defnyddio i blannu coed.
Yng Nghymru, meddai, mae hi'n "haws i blannu coed ar dir amaethyddol, sydd ddim yn rhywbeth 'dan ni am ei weld yn digwydd", ac mae Ms Harrison yn galw am "adolygiad radical" o'r ffordd y mae'r llywodraeth yn ymdrin 芒'r mater.
Ychwanegodd fod cadwraethwyr, ffermwyr a chwmn茂au coedwigaeth i gyd "yn cystadlu am dir ar hyd Cymru, ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw dod o hyd i ffordd i weithio gyda'n gilydd".
'Sefyllfa fregus iawn'
Tra bod Yr Alban a Lloegr yn plannu mwy o goed na Chymru, dywedodd Ms Harrison fod y DU yn rhy ddibynnol ar fewnforion.
"Ry'n ni mewn sefyllfa fregus iawn yng Nghymru, ac o amgylch y DU, wrth ddibynnu ar y farchnad ryngwladol," meddai.
Er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, a 180,000 hectar erbyn 2050, mae angen plannu 5,000 hectar newydd bob blwyddyn.
Yn 么l Iwan Lloyd-Williams, sy'n ymgynghorydd coedwigaeth annibynnol, mae hyd yn oed coed sy'n cael eu hystyried fel rhai sy'n tyfu'n sydyn angen rhwng 30-40 mlynedd i aeddfedu, felly mae angen gweithredu ar frys.
"Os 'dan ni ddim yn gwneud rhywbeth r诺an, mae hi am fod yn rhy hwyr," meddai.
Dywedodd ei bod hi'n "galonogol" fod gan y Llywodraeth dargedau uchelgeisiol o ran plannu coed a chyrraedd sero net, ond fod y diwydiant yn wynebu gormod o "fiwrocratiaeth a phrosesau hir wyntog" cyn gallu rhoi rhaw yn y ddaear.
Yn 么l ffigyrau diweddara'r llywodraeth - ar gyfer 2017-18 - mae'r diwydiannau coedwigaeth a phapur yn cyfrannu tua 拢665m i economi Cymru, ac mae hyd at 11,000 o bobl yn gweithio yn y maes.
Ychwanegodd Mr Lloyd-Williams fod y galw am goed ar gyfer adeiladu yn debygol o gynyddu, gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddeunyddiau cynaliadwy.
"Ry'n ni angen cartrefi. Gyda'r boblogaeth yn tyfu, o le mae'r coed hynny am ddod yn y dyfodol? Dyla' ni allu adeiladu tai Cymreig gyda choed o Gymru."
Ym mis Mai cafodd cynllun i weddnewid system cymorthdaliadau ffermwyr ei ohirio tan 2026 yn dilyn protestiadau eang.
Fel rhan o gynigion gwreiddiol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, roedd gofyn i ffermwyr blannu coed ar 10% o'u tir, a chlustnodi 10% o'u tir fel cynefin i fyd natur, ond roedd nifer o ffermwyr yn anhapus gyda'r cynnig hwnnw.
'Ddim yn ymarferol' ar bob fferm
Yn 么l Iwan Parry, rheolwr rhanbarthol efo Tilhill - cwmni coedwigaeth mwya'r DU - roedd ceisio gorfodi ffermwyr i blannu coed ar 10% o'u tir cynhyrchiol yn gamgymeriad.
"Dwi ddim yn si诺r os mai dyna'r ffordd orau i fynd o'i chwmpas hi," meddai.
Mae'n dadlau fod angen i gwmn茂au coedwigaeth a ffermwyr weithio gyda'i gilydd a dod i gytundeb, gan ychwanegu "fod yna gyfleoedd ar ffermydd, heb os, ond nid ar bob fferm".
"Mae'n gweithio i rai ffermwyr i blannu coed, ond efallai nad ydi hynny'n ymarferol i rai eraill.
"Mae angen i ni edrych yn 么l ar hyn a cheisio dod o hyd i ffordd ymlaen. Mae angen i ni gynhyrchu bwyd, ond mae angen i ni hefyd gynhyrchu pren er mwyn gallu adeiladu cartrefi a phopeth arall."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n falch o weld Confor yn tynnu sylw at bwysigrwydd tyfu mwy o goed yng Nghymru a'i bwysigrwydd wrth adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru.
"Ry'n ni'n gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys Confor, er mwyn llunio strategaeth goed ddiwydiannol i gefnogi a datblygu'r diwydiant mewn modd effeithiol.
"Roedd y cynigion oedd yn rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnwys plannu coed ar dir amaethyddol, gydag unrhyw goed newydd yn cael eu cyflwyno mewn modd sy'n golygu y byddai busnes y fferm yn elwa.
"Does dim penderfyniadau terfynol wedi eu gwneud yngl欧n 芒 chynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ond ry'n ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid, ac yn cynnal trafodaethau bord gron er mwyn adolygu'r agweddau hyn."