大象传媒

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg

Cylchdro Heol Pentre'r Cwrt, Llanilltud FawrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4265 ger cylchdro Heol Pentre'r Cwrt, yn Llanilltud Fawr

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r B4265 ger cylchdro Heol Pentre鈥檙 Cwrt yn Llanilltud Fawr tua 19:30 nos Fawrth.

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad ac mae teulu'n dyn wedi cael gwybod.

Dyw'r llu ddim wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth bellach am y digwyddiad.

Bu'n rhaid cau'r ffordd a dargyfeirio traffig er mwyn archwilio ardal y gwrthdrawiad.

Pynciau cysylltiedig