Toni Schiavone: Gorchymyn i dalu hysbysiad parcio uniaith Saesneg
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn dweud bod angen cryfhau'r gyfraith sy'n cefnogi'r Gymraeg ar 么l i gwmni parcio preifat ennill ei achos yn erbyn aelod o Gymdeithas yr Iaith.
Roedd Toni Schiavone yn y llys am y pedwerydd tro ar 么l gwrthod talu hysbysiad t芒l parcio a gyhoeddwyd yn uniaith Saesneg gan gwmni preifat One Parking Solution (OPS).
Dywedodd Mr Schiavone y byddai wedi costio tua 拢60 i gyfieithu'r hysbysiad, tra bod y cwmni parcio wedi talu mwy na 拢14,000 mewn costau cyfreithiol i ddod 芒'r achos i'r llys dros gyfnod o dair blynedd.
Ar 么l gwrandawiad dwyieithog yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth, dywedodd y Barnwr Rhanbarthol Lowri Williams fod Mr Schiavone wedi cyflwyno achos gonest a moesol, a'i bod yn cytuno y byddai wedi bod yn haws pe bai OPS wedi cyfieithu'r hysbysiad ar y dechrau.
Mae Mr Schiavone wedi dweud yn gyson y byddai wedi talu pe bai wedi ei dderbyn yn Gymraeg neu鈥檔 ddwyieithog.
Ond ychwanegodd y barnwr nad oedd gofyniad cyfreithiol ar y cwmni i gyhoeddi'r hysbysiad yn Gymraeg gan fod y ddeddfwriaeth ar y Gymraeg yn berthnasol i gyrff cyhoeddus ac nid i gwmn茂au preifat.
'Diffyg difrifol'
Ar 么l y gwrandawiad, dywedodd Mr Schiavone ei fod yn siomedig ond heb ei synnu.
鈥淢i oedd y ddadl gan OPS yn ymwneud 芒鈥檙 gyfraith o ran cosb parcio. Ond roedd fy nadl i ar sail egwyddor - ar sail fy hawl fel Cymro Cymraeg y dylid fod wedi darparu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae hyn yn dangos diffyg difrifol yn y ddeddfwriaeth fel ag y mae. Roedd y Comisiynydd [y Gymraeg] wedi annog y cwmni yma i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ond dyw anogaeth mae鈥檔 amlwg ddim yn ddigon.鈥
Gorchmynnodd y llys i Mr Schiavone dalu 拢170 a llog o 拢11.90, ac 拢85 o gostau.
Gwrthodwyd yr hawl i apelio i Mr Schiavone, a dywedodd na fyddai'n gwneud unrhyw daliadau er gwaethaf gorchymyn y llys.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023