Cydnabyddiaeth genedlaethol i ardd goffa Senghennydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r ardd goffa ar safle'r drychineb waethaf yn hanes y diwydiant glo ym Mhrydain, yn cael ei chydnabod yn swyddogol gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd yr ardd yn Senghennydd, Sir Caerffili, ei hagor yn 2013 i nodi canmlwyddiant y danchwa ym mhwll glo'r Universal, lle cafodd 440 o bobl eu lladd.
Mae'r safle bellach yn cael ei adnabod fel Gardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru.
Yn ogystal 芒 chofio'r danchwa ym mhwll glo'r Universal, Senghennydd ar 14 Hydref 1913, mae'r ardd yn anrhydeddu'r rhai fu farw mewn trychinebau glofaol ledled Cymru.
Mae'r ardd wedi cael ei hychwanegu at y gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru.
Mae'r cyhoeddiad wedi'i groesawu gan wirfoddolwyr lleol yng Ngr诺p Treftadaeth Cwm Aber.
"Rydym mor falch bod ein Gardd Goffa wych bellach yn 'Ardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru' ac wedi cael ei hychwanegu at y gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru," meddai Gill Jones o'r gr诺p
"I ymroddiad a gwaith caled ein gwirfoddolwyr, sy'n treulio oriau lawer ym mhob tywydd i'w chynnal at y safonau uchel sy'n ofynnol ar gyfer anrhydedd o'r fath, y mae'r diolch."
Mae noddwr Gr诺p Treftadaeth Cwm Aber, y darlledwr Roy Noble, yn gobeithio bydd statws newydd yr ardd goffa yn codi ymwybyddiaeth o'r safle.
"Mae'r gair cenedlaethol yn bwysig yn fan hyn - bydd e'n codi'r hanes i bawb sydd efallai ddim yn gwybod llawer amdano fe.
"Mae lot o Gymry sydd ddim yn gwybod llawer amdano fe."
Yn 么l Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden mae鈥檔 鈥渟afle cyhoeddus pwysig ar gyfer coff谩u a chofio ac mae iddo r么l bwysig i gysylltu pobl 芒'r gorffennol鈥.
Ychwanegodd ei bod yn 鈥渇alch iawn ein bod wedi gallu rhoi'r gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu" i'r ardd.