大象传媒

Eisteddfod 2024: Cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen

Medal Daniel OwenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Medal Gwobr Goffa Daniel Owen yn cael ei rhoi am nofel gyda llinyn stor茂ol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau

  • Cyhoeddwyd

Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen fydd prif ddefod llwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddydd Mawrth.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor茂ol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Os bydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a 拢5,000.

Y beirniaid eleni yw Jerry Hunter, Catrin Beard a Marlyn Samuel.

Alun Ffred Jones oedd enillydd y gystadleuaeth hon yn Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd 2023 am ei nofel 'Gwynt y Dwyrain' - fe ddaeth hi i'r brig mewn cystadleuaeth lle roedd 10 wedi ymgeisio.

Yn 么l y beirniaid roedd hi'n "chwip o nofel" yn "gofyn cwestiynau pwysig am ein bywyd cyfoes" ac roedd y tri beirniad - Sioned Wiliam, Mared Lewis a Dewi Prysor - yn unfrydol mai Gwynt y Dwyrain gan 'Gerddi Gleision' oedd yn haeddu'r wobr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwynt y Dwyrain gan Alun Ffred Jones a gipiodd y wobr yn 2023

Mae nofelau'r Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd gyda ddarllenwyr ac yn hwb enfawr i'r diwydiant llyfrau yng Nghymru.

Ym mis Chwefror 2021 dywedodd y Cyngor Llyfrau bod colli cyfrolau'r Eisteddfod - Y Rhaglen, Y Cyfansoddiadau, Y Fedal a'r Daniel Owen - wedi costio oddeutu 拢100,000 yn ei gyfanrwydd i'r diwydiant llyfrau yn 2020 yn sgil y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynnyrch yr Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd gyda ddarllenwyr

Fe fydd y seremoni yn cael ei chynnal am 16:30.

Fydd yr orsedd ddim yn rhan o'r seremoni.