大象传媒

Ateb y Galw: Y Parchedig Dylan Parry

Dylan ParryFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Parchedig Dylan Parry fel un o arweinwyr FFIT Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Parchedig Dylan Parry yn wyneb cyfarwydd i'r rhai sy'n dilyn y gyfres deledu FFIT Cymru.

Roedd yn arweinydd ar y gyfres ddiwethaf yn ei ymgais i geisio colli pwysau.

Yn wreiddiol o Gaernarfon, mae bellach yn weinidog sy'n gyfrifol am eglwysi annibynnol Gofalaeth Glannau Ogwr sy'n cynnwys capel y Tabernacl ym Mhen-y-bont a chapel y Tabernacl, Porthcawl.

Dyma ddod i adnabod Dylan ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd ar goll yn Butlins, ar 么l pwdu am nad oni鈥檔 cael be o'n i eisiau yn y siop. Dwi鈥檔 cofio stiwardiaid yn fy nghario i鈥檙 swyddfa. O'n i鈥檔 dair oed gyda llaw.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Nant Gwrtheyrn, wedi gwirioni dod lawr i鈥檙 Nant, wedi bod pan yn blentyn. Mae鈥檔 le heddychlon, lle i鈥檙 enaid gael llonydd.

Ffynhonnell y llun, Dylan Parry
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dylan yn Nant Gwrtheyrn gyda'i bartner, Serkan

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn ddiweddar, noson olaf ffilmio Ffit Cymru.

Roedd hwn yn sbesial lle鈥檙 oedde ni鈥檔 dathlu gyda鈥檔 gilydd y llwyddiant a鈥檙 holl waith caled.

Mae rhyuwn yn edrych 'n么l ac yn ei drysori yn fawr.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Swil, penderfynol, anturus

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl yn 么l?

Fy mhlentyndod, yn enwedig yr holl drugareddau oeddwn i a fy chwaer yn ei wneud. Dianc o sawl ystafell meithrin dros y blynyddoedd. 鈥楾he Great Escape鈥.

Ffynhonnell y llun, Dylan Parry
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dylan gyda'i chwaer fach, Bethan

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Lle dwi鈥檔 dechrau?!

Un flwyddyn oeddwn wedi cymryd gormod ymlaen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 2007.

Roeddwn mewn sawl cystadleuaeth. Richard Burton, corau, ac adrodd darn o鈥檙 ysgrythur, ac er mod i wedi dysgu鈥檙 Richard Burton yn dda a鈥檙 corau, nes i鈥檓 edrych ryw lawer ar y darn o鈥檙 ysgrythur, ac felly ar 么l yr adnod gyntaf, anghofiais y darn yn gyfan gwbl. (Fe roddwyd bai ar y s诺n yn y cefn).

Ond cywilydd mawr ar y pryd. (Beth sy鈥檔 waeth yw fy mod i鈥檔 weinidog 17 mlynedd lawr y lein.)

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Ychydig wythnosau n么l yn Gwylio 鈥楲ost Boys and Fairies鈥 Cr茂o trist a hapus.

Drama afaelgar ac emosiynol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gwylio 'Lost Boys and Fairies' wedi cael cryn effaith ar Dylan

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes gormod. Prynu gormod o lyfrau, llawer mwy na allai fyth ddarllen.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mae gen i ormod o hoff lyfrau.

鈥淭he Help鈥 yw fy hoff ffilm. Ffilm am awdur hawliau sifil yn y chwedegau yn yr UDA sydd yn ysgrifennu llyfr o safbwynt gweision Americanaidd Affricanaidd.

Mae hanes hawliau sifil 芒 gwersi pwysig i ni heddiw.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Nelson Mandela. Byth ers i mi dreulio cyfnod yn cenhadu yn Ne Affrica, nes i weld dylanwad mawr 鈥楳adiba鈥 ar y genedl, ac ar y byd. O weld sefyllfa ein byd heddiw hoffwn glywed pa ddoethinebau byddai ganddo ar ein cyfer.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Buasai Dylan wrth ei fodd o fod wedi cael cwrdd 芒 Nelson Mandela

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi鈥檔 dysgu siarad Twrceg ar hyn o bryd.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Bod yn hapus a bodlon a diolch am yr hyn sydd wedi bod yn bwysig yn fy mywyd a threulio鈥檙 diwrnod yng nghwmni fy nheulu annwyl.

Ffynhonnell y llun, Dylan Parry
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r llun teulu hwn yn golygu cymaint i Dylan

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun ohona ni gyd fel teulu. Pob un ohona ni鈥檔 gwenu. A鈥檙 llun cyntaf gyda phawb yno.

Mae teulu yn golygu popeth.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Alex Honnold, dringwr free solo a ddringodd El Capitan heb raffau.

Mi hoffwn brofi鈥檙 un hyder a鈥檙 ffitrwydd o leiaf unwaith.

Pynciau cysylltiedig