'Dwi wedi gadael fy meddyg teulu ar 么l 77 mlynedd'
- Cyhoeddwyd
Pan ffoniodd Gwyn John ei feddyg teulu dros yr haf a darganfod mai ef oedd rhif 32 yn y ciw i gael ateb, daeth perthynas a oedd wedi bodoli ers 1945 i ben.
Ar 么l rhoi'r ff么n i lawr, penderfynodd Mr John dalu am ymgynghoriad preifat, cyn cofrestru 芒 meddyg teulu newydd am y tro cyntaf yn ei fywyd.
Daw wrth i ddoctoriaid ddweud bod meddygfeydd mewn "argyfwng" wedi i drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru dros gytundeb ariannol newydd ddod i ben heb ddatrysiad.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn ceisio atal y pwysau ar linellau ff么n meddygfeydd.
Ychwanegodd y gweinidog iechyd eu bod wedi cynnig 5% o godiad cyflog i feddygon teulu, sydd wedi'i wrthod, ac nad oes mwy o arian ar gael.
'Methu cymryd y risg'
Mae Gwyn John, 78, yn gwerthfawrogi ei berthnasoedd hirdymor.
Ei hen-dad-cu adeiladodd y t欧 mae'n byw ynddo nawr, ac mae wedi treulio ei fywyd cyfan yn byw ar yr un stryd yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg.
"Roeddwn i wedi bod efo'r feddygfa yna am 77 mlynedd a 10 mis," meddai Mr John, a oedd hefyd yn bwcio apwyntiadau rheolaidd i'w wraig Gloria - oedd 芒 dementia - tan ei marwolaeth ddwy flynedd yn 么l.
"Pan oedd fy ngwraig yn fyw, o'n i methu cymryd y risg. Roedd rhaid i mi ddal ymlaen [ar y ff么n]."
Dywedodd Mr John ei fod yn poeni bod pobl eraill yn wynebu'r un her yn ceisio cael apwyntiad.
Yn ei hen feddygfa, dywedodd Mr John bod modd cael apwyntiad yr un diwrnod yn unig, oedd yn golygu fod yn rhaid ffonio rhwng 08:00 a 09:00, neu lenwi ffurflen ar-lein.
Ond mae nawr yn teimlo rhyddhad ers newid i feddygfa sydd 芒 system wahanol.
Dywedodd hen feddygfa Mr John - Llantwit Major & Coastal Vale - nad yw ei brofiad ef yn un arferol, gyda nifer y galwadau yn amrywio o ddydd i ddydd.
'Dim ond dyfnhau fydd yr argyfwng'
Mae adolygiad diweddar gan BMA wedi darganfod bod nifer y meddygon teulu llawn-amser wedi gostwng dros y 10 mlynedd ddiwethaf yng Nghymru, tra bod nifer y cleifion wedi cynyddu.
Roedd 80% o'r ymatebwyr yn poeni bod eu llwyth gwaith yn golygu na allant gynnig gofal o safon i'w cleifion.
Mae Dr Gareth Oelmann, cadeirydd pwyllgor meddon teulu cymdeithas feddygol BMA Cymru, yn dweud fod meddygon ar draws y wlad yn teimlo pwysau anghynaladwy.
"Oni bai fod Llywodraeth Cymru yn gallu cytuno ar becyn sy'n cefnogi meddygon teulu a'u cleifion, mae gen i ofn mai dim ond dyfnhau fydd yr argyfwng meddygon teulu yng Nghymru".
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y dylai cleifion allu bwcio apwyntiadau "drwy gydol y dydd" i osgoi "y dagfa wyth o'r gloch sy'n achosi siom i nifer".
Nododd hefyd bod "y rhan fwyaf" o feddygfeydd wedi dechrau gweithio ar wella eu systemau bwcio.
'Costio llawer mwy i鈥檙 llywodraeth'
Dywedodd Phil White o鈥檙 Felinheli, cyn-gadeirydd BMA Cymru, fod 鈥減ethau am fynd o ddrwg i waeth鈥 yn y cyfnod prysuraf mae鈥檔 ei gofio erioed.
鈥淥s dydy meddygfeydd yn methu talu ffordd a rhoi鈥檙 contract yn 么l i鈥檙 bwrdd iechyd wedyn mae鈥檙 bwrdd iechyd yn rhedeg y meddygfeyd, mae hwn yn costio llawer mwy i鈥檙 llywodraeth.
鈥淢ae鈥檔 costio 30% yn fwy i鈥檙 llywodraeth redeg meddygfeydd fel hyn achos natur cyflogau a licien ni weld cynnydd sylweddol yn ein t芒l ni ac adnabyddiaeth bo鈥 ni 鈥檇i bod mwy prysur nag erioed.鈥
Mae Mr White hefyd yn pryderu bod llai o feddygon iau yn dod yn bartneriaid mewn meddygfeydd.
鈥淢ae meddygon iau yn llai tebygol o gymryd partneriaeth oherwydd maen nhw yn gweld y risg ac yn fwy tebyg o isio bod yn gyflogedig.
鈥淎c yn y diwedd os oes gynnoch chi ddim contractwyr bydd rhaid i鈥檙 llywodraeth redeg y cwbl, a fel dwi鈥檔 dweud mae hyn yn costio llawer mwy.鈥
Mae Cleona Jones, rheolwr meddygfa yn Y Barri, yn dweud eu bod nhw wedi cychwyn system ffonio cleifion yn 么l er mwyn eu hatal rhag "aros am awr ar y ff么n".
Ond mae'r feddygfa hefyd yn cael trafferth yn cadw ei staff derbynfa, gyda Ms Jones yn dweud fod sarhad gan gleifion yn ffactor.
"Mae staff yn gadael oherwydd does dim rhaid iddyn nhw gael eu sarhau dros y ff么n, gallant gael swydd well - mwy o arian, dim camdriniaeth," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod unrhyw fygythiadau tuag at staff yn "hollol annerbyniol".
Yn siarad ar raglen 大象传媒 Wales Live nos Fercher dywedodd y gweinidog iechyd fod y trafodaethau ar gytundebau meddygon teulu wedi dod i ben oherwydd "yn syml, does gennym ni ddim arian i'w gynnig".
Dywedodd Eluned Morgan, hyd yn oed os oes mwy o arian yn dod o San Steffan o ganlyniad i ddatganiad yr hydref, y byddai'n anodd rhoi'r arian yna i feddygon oherwydd bod "twll mawr iawn" yn eu cyllideb eisoes.
"Allwn ni ddim defnyddio hud a lledrith i wneud mwy o arian pan fo chwyddiant fel mae e," meddai.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig 5% o godiad cyflog i feddygon teulu a staff meddygfeydd, sydd wedi cael ei wrthod.
"Mae'r arian yno iddyn nhw os ydyn nhw eisiau fe," meddai Ms Morgan.
Ychwanegodd ei bod wedi gofyn i fyrddau iechyd Cymru wneud 拢64m o arbediadau ychwanegol. Ar hyn o bryd mae disgwyl iddynt orwario o tua 拢800m eleni.
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2023
Yn 么l y gweinidog iechyd mae gan bawb ran i'w chwarae er mwyn gwella gwasanaethau meddygon teulu.
"Meddygon teulu yw'r cam cyntaf yn nhaith gofal iechyd rhywun, ac mae'n allweddol fod pawb yn cael eu gweld, eu trin neu eu cyfeirio at wasanaeth mwy perthnasol mor gyflym 芒 phosib," meddai Eluned Morgan.
"Mae tua 80,000 o apwyntiadau yn cael eu methu pob mis.
"Dwi'n annog pawb i fynychu eu hapwyntiadau neu ail-drefnu cyn gynted 芒 phosib os na allant fynd, fel y gall pawb sydd angen meddyg teulu gael eu gweld."