大象传媒

Gwynedd: Disgwyl rheolau llymach ar ail gartrefi a llety gwyliau

Arwydd yng Ngwynedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymchwil diweddar yn dangos bod 65% o boblogaeth Gwynedd ar gyfartaledd yn cael eu prisio allan o'r farchnad

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gynghorwyr Gwynedd roi s锚l bendith i鈥檞 gwneud yn orfodol i sicrhau caniat芒d cynllunio cyn gallu troi t欧 yn ail gartref neu lety gwyliau.

Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud wythnos nesaf yn dilyn proses ymgynghori a ddenodd bron i 4,000 o ymatebion o blaid ac yn erbyn y mesurau.

Gyda'r bwriad o geisio rheoli effaith ail gartrefi ar gymunedau yng Ngwynedd, yr argymhelliad yw fod cynghorwyr yn cymeradwyo mabwysiadu'r newidiadau i鈥檙 broses gynllunio, sy鈥檔 cael ei adnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, o 1 Medi 2024.

Ond bydd y newidiadau ddim yn effeithio ar ardal Parc Cenedlaethol Eryri, sydd eisoes wedi dechrau proses ymgynghori debyg yno.

Fe gafodd awdurdodau ledled Cymru mwy o bwerau gan y llywodraeth i reoli'r nifer o ail gartrefi yn Hydref 2022, a Gwynedd fydd y cyngor cyntaf i fanteisio ar y grymoedd hyn.

Ymatebion cymysg

Roedd y cyngor wedi derbyn 3,902 ymateb i鈥檙 ymgynghoriad, gyda rhai yn disgrifio鈥檙 mesurau fel rhai 鈥渁nnheg鈥 ac hyd yn oed 鈥渁nfoesol鈥.

Ymysg y 100 oedd wedi nodi anfodlonrwydd fod y cynllun yn 鈥渁nghyfiawn鈥, roedd sylw fod 鈥渃yfyngiadau digonol eisoes yn bodoli鈥 a fod y polisi yn 鈥渢argedu'r Saeson yn bwrpasol鈥 gan fod 鈥済an bawb hawl i werthu ar y farchnad agored鈥.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymgyrchwyr yn dadlau ers tro bod sawl cymuned yng Nghymru yn rhy ddrud i bobl leol fyw ynddynt

Roedd 1,242 hefyd wedi codi pryder y byddai鈥檔 cael effaith negyddol ar werth eiddo.

Dywedodd un ymatebwr: "Er y gellir ystyried hyn yn fantais i bobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu prisio allan o'r farchnad, pa ystyriaeth a roddwyd i'r rhai sydd eisoes yn byw yma, a dalodd bris llawn y farchnad am ein cartrefi ac sydd bellach yn wynebu'r posibilrwydd y caiff ein cartrefi eu dibrisio gan ein cyngor ein hunain?"

Ond roedd 1,321 o'r rheiny wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad yn cefnogi bwriad y cyngor.

Yn 么l adroddiad i Gabinet Gwynedd, gyda rhai wardiau gyda dros hanner y boblogaeth wedi eu geni tu allan i Gymru, mae angen ymyrraeth ychwanegol yn y farchnad.

Mae'r adran gynllunio eisoes wedi derbyn swm un tro o 拢400,000 gan y cabinet ym Mawrth 2023 er mwyn ariannu鈥檙 gost o gyflwyno鈥檙 gyfundrefn newydd, gyda'r awdurdod yn hyderus eu bod wedi derbyn cyngor cyfreithiol "ar hyd y daith".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dafydd Meurig: "Mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o鈥檙 farchnad dai"

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, sy鈥檔 dal portffolio amgylchedd y cyngor, ei fod yn gam 鈥渁rloesol鈥.

鈥淢ae Cyngor Gwynedd am weld pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol 鈥 mae hynny'n allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni," meddai.

鈥淵n anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o鈥檙 farchnad dai ac mae hynny i鈥檞 weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.

鈥淢ae鈥檔 anorfod felly fod y nifer sylweddol o dai sy鈥檔 cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr yn effeithio ar allu pobl Gwynedd i gael mynediad at gartrefi yn eu cymunedau.鈥

'Arf newydd'

Mae perchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd eisoes yn talu premiwm o 150% ar ben eu treth cyngor.

Ond ychwanegodd y Cynghorydd Meurig byddai cyflwyno Erthygl 4 yn 鈥渁rf newydd i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau鈥.

Ffynhonnell y llun, Adroddiad Cyngor Gwynedd

鈥淢ae gwaith manwl wedi ei gynnal dros y flwyddyn ddiwethaf i sefydlu鈥檙 achos dros gyflwyno鈥檙 newid ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus.

鈥淢ae鈥檙 sylwadau wedi derbyn ystyriaeth gofalus ym Mhwyllgor Craffu Cymunedau鈥檙 Cyngor a bydd y Cabinet r诺an yn ystyried yr holl dystiolaeth wrth benderfynu os am gadarnhau i weithredu鈥檙 Cyfarwyddyd Erthygl 4 o fis Medi ymlaen.鈥

'Argyfwng tu hwnt i ffiniau Gwynedd'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu bwriad Cyngor Gwynedd ond wedi galw am fesurau tebyg mewn siroedd eraill yng Nghymru.

Dywedodd Dr Jeff Smith, Cadeirydd Gr诺p Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Rydym yn falch o weld Cyngor Gwynedd yn mynd ati gyda鈥檙 broses o gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 a hynny ar draws y sir gyfan.

"Ond mae argyfwng tai Cymru鈥檔 bodoli y tu hwnt i ffiniau Gwynedd. Galwn nawr ar awdurdodau lleol eraill i ddilyn yr esiampl yma ar draws eu siroedd nhw.

鈥淢ae鈥檔 amlwg bod ystyriaethau ariannol, capasiti swyddogion ac ansicrwydd am y broses yn eu hatal rhag gwneud felly mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi pecyn cymorth sy鈥檔 cynnwys cyllid ar gyfer staff ychwanegol er mwyn ei weinyddu a chanllawiau clir.

"Beth yw diben y grymoedd newydd yma os na all awdurdodau lleol wneud defnydd ohonyn nhw oherwydd diffyg adnoddau neu arweiniad?鈥

Mae disgwyl penderfyniad terfynol pan fydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn cyfarfod brynhawn Mawrth, 16 Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig