大象传媒

Beth Winter, cyn-AS Cwm Cynon, yn gadael y Blaid Lafur

Beth WinterFfynhonnell y llun, Beth Winter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 2023 dywedodd Beth Winter fod y broses o ddethol ymgeiswyr yn "annheg ac annemocrataidd"

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檙 cyn-Aelod Seneddol Llafur, Beth Winter, wedi gadael y blaid gan ei chyhuddo o ddilyn 鈥渁genda wleidyddol sy'n mynnu ufudd-dod i awdurdod鈥.

Dywedodd Ms Winter, a gynrychiolodd Cwm Cynon rhwng 2019 a 2024, mai amcan presennol Llafur oedd 鈥渃adw鈥檙 'status quo neoryddfrydol', gwasanaethu buddiannau corfforaethol ac amddiffyn y dosbarth sy'n rheoli".

Yn 2023, galwodd Ms Winter - sy'n gefnogol i gyn-arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn - am adolygiad annibynnol o broses ddethol ei phlaid ar 么l iddi golli mewn ras i fod yn ymgeisydd yn etholaeth newydd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf.

Mae'r Blaid Lafur wedi cael cais i wneud sylw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gerald Jones enillodd yn erbyn Beth Winter yn y broses ddethol ym mis Mehefin 2023

鈥淢ae erledigaeth ddigynsail y Blaid Lafur a'i thriniaeth ddidrugaredd o鈥檌 haelodau sosialaidd, ei chynrychiolwyr a鈥檌 phleidleiswyr yn warthus,鈥 meddai Ms Winter mewn datganiad.

Dywedodd iddi gael ei hethol ar faniffesto Llafur 2019.

鈥淩wyf wedi parhau i fod yn ymrwymedig i weledigaeth y maniffesto hwnnw er mwyn sicrhau cymdeithas decach, fwy cyfartal, a gwyrddach 鈥榠鈥檙 nifer fawr, nid yr ychydig鈥.

鈥淵n anffodus, nid yw鈥檙 Blaid Lafur bellach yn cynrychioli鈥檙 weledigaeth sosialaidd honno ac rwyf, felly, wedi penderfynu heddiw i roi鈥檙 gorau i鈥檓 haelodaeth.鈥

"Does dim modd adnabod y Blaid Lafur" bellach, ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Senedd y DU
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ms Winter yn honni y bydd cyllideb Rachel Reeves yn arwain at dlodi a chaledi i filiynau

Dywedodd y cyn-AS fod cyllideb yr wythnos ddiwethaf yn 鈥済yfle a gollwyd鈥, a'i bod yn arwain at 鈥渓ymder parhaus, anghydraddoldeb, tlodi a chaledi i filiynau o bobl鈥.

Mae Ms Winter hefyd wedi beirniadu llywodraeth y DU am beidio cael gwared 芒 therfyn budd-daliadau lles dau blentyn ac am ddileu taliadau tanwydd y gaeaf.

Pynciau cysylltiedig