大象传媒

'Aeth Mam i farw yn y Swistir - a byddwn i'n gwneud yr un peth'

Disgrifiad,

"Oedd hi ddim ishe byw ddim mwy" - Sian Wright yn s么n am brofiad ei mam o fyw 芒 chyflwr MS

  • Cyhoeddwyd

Mae merch i ddynes wnaeth deithio i'r Swistir er mwyn dod 芒'i bywyd i ben wedi dweud y byddai hi'n gwneud yr un peth pe bai hi yn yr un sefyllfa.

Yn 2004 cafodd Janet Owen o Gwm Penmachno ger Betws-y-coed wybod bod ganddi fath o sglerosis ymledol, neu MS.

Erbyn 2009 roedd ei chyflwr hi wedi dirywio i'r fath raddau, a鈥檙 boen mor ddifrifol, fel ei bod hi wedi penderfynu teithio i glinig Dignitas yn y Swistir i gael cymorth i farw.

Yn dioddef o MS ei hun, mae merch Janet, Sian Wright, yn credu y dylai pobl fod 芒'r hawl i gael cymorth i farw yng Nghymru.

Cafodd cynnig i roi鈥檙 hawl i bobl sydd 芒 salwch angheuol i gael cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr ei gyflwyno yn Nh欧鈥檙 Cyffredin yn gynharach yn y mis.

Ddydd Mercher, fe fydd aelodau Senedd Cymru yn trafod y mater, ac yn ystyried hawl pobl sy'n dioddef o rai cyflyrau difrifol 鈥 nad oes modd gwella ohonyn nhw聽- i gael cymorth i farw.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Janet Owen wrth ei bodd yn mynd i gerdded, yn 么l ei merch

Cyn dod i wybod bod ganddi MS, roedd Janet Owen yn ddynes heini.

鈥淧an o鈥檔 i鈥檔 fach roedd Mam yn berson mor hapus 芒 phositif. Roedd hi鈥檔 canu a dawnsio a cherdded y mynyddoedd,鈥 meddai Sian.

Ond o fewn pum mlynedd o gael diagnosis, roedd hynny wedi newid yn llwyr.

鈥淎r 么l MS roedd popeth yn wahanol. Roedd hi鈥檔 brifo o hyd, o godi yn y bore i fynd i鈥檙 gwely gyda鈥檙 nos.

"Doedd hi ddim yn gallu sefyll na cherdded... Doedd hi ddim yn gallu gwneud dim byd erbyn y diwedd. Roedd hi mor isel a doedd hi ddim isio byw dim mwy.鈥

Beth yw Sglerosis Ymledol?

Mae sglerosis ymledol (MS) yn glefyd cronig sy'n effeithio ar yr ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn, gan achosi amrywiaeth o symptomau, gan gynnwys;

  • Effaith ar eich golwg

  • Symudiad y cyhyrau

  • Trafferthion wrth gadw balans

  • Blinder

  • Colli teimlad

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sian gyda'i mam Janet

Ym mis Ebrill 2009 penderfynodd Janet ei bod am deithio i glinig Dignitas yn y Swistir - yr unig wlad ar y pryd oedd yn gadael i bobl o dramor fynd yno i gael cymorth i farw.

Ar 么l chwe mis o drefnu fe aeth Janet yno gyda鈥檌 g诺r Aled Owen.

鈥淩oedd o mor anodd pan ddywedodd Mam ei bod hi am fynd i Dignitas," meddai Sian.

"Roedd hi鈥檔 caru fy nhad a fi a Richard fy mrawd wrth gwrs, ond doedd hi ddim yn medru byw bellach.

鈥淒oeddwn i ddim isio iddi fynd i鈥檙 Swistir, o鈥檔 i ddim isio hynny o gwbl.

"O鈥檔 i isio dod yn 么l o Japan, ble o鈥檔 i鈥檔 byw, a gofalu amdani, ond gwrthododd hi hynny.

"Wnes i ddim hyd yn oed cael y cyfle i weld hi, i roi cwtch iddi cyn iddi fynd.

"Mae鈥檔 galed dros ben, hyd yn oed yn meddwl amdano fo r诺an mae o dal yn galed, ond roedd Mam yn brifo pob diwrnod ac yn teimlo鈥檔 s芒l a tydi hynny ddim yn fywyd.

鈥淵 siom fawr ydy ei bod hi wedi gorfod teithio i gael y cymorth. Os oedd o ar gael yma, falle byddai hi wedi aros gyda ni am hirach.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sian Wright yn galw ar aelodau Senedd Cymru i gefnogi'r cynnig cymorth i farw

Dydd Mercher fe fydd aelodau鈥檙 Senedd yng Nghaerdydd yn trafod y cynnig a gyflwynwyd yn Nh欧鈥檙 Cyffredin yn gynharach y mis hwn, sy鈥檔 cefnogi鈥檙 hawl i gael cymorth i farw i bobl sydd 芒 salwch angheuol.

Ond mae disgwyl i鈥檙 ddadl, a gafodd ei chynnig gan yr aelod Llafur Julie Morgan, hefyd ystyried hawl pobl sy'n dioddef o rai cyflyrau difrifol 鈥 nad oes modd gwella ohonyn nhw聽- i gael cymorth i farw.

Bydd pleidlais yn dilyn dadl aelodau鈥檙 Senedd, ond gan nad yw cymorth i farw yn faes sydd wedi ei ddatganoli, nid oes gan Lywodraeth Cymru'r pwerau i basio unrhyw ddeddf ar y mater.

'Byddwn i'n gwneud yr un penderfyniad'

鈥淒wi鈥檔 hollol sicr bod angen i鈥檙 gyfraith newid ar hyn. Pam bod rhaid teithio鈥檔 bell i gael cymorth i farw? Dyw hynny ddim yn deg,鈥 meddai Sian.

鈥淢ae gen i MS r诺an hefyd, er ar hyn o bryd dydi o ddim mor ddifrifol 芒 chyflwr Mam.

"Ond os oeddwn i yn yr un fath o boen - poen pob munud, fel oedd Mam erbyn y diwedd - byddwn i鈥檔 gwneud yr un penderfyniad 芒 hi, hyd yn oed os nad yw鈥檙 gyfraith wedi newid yma.

"Doedd Mam ddim yn byw bywyd da erbyn y diwedd.鈥

Ond nid pawb sy鈥檔 cytuno.

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn honni y byddai pobl fregus yn cael eu rhoi mewn perygl pe bai cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni.

Dywed eu hesgobion fod 鈥渢ystiolaeth helaeth鈥 y gall marw 芒 chymorth 鈥渁rwain yn gyflym at ganlyniadau gwael ac anfwriadol, ac at ddibrisio holl fywyd dynol".

鈥淢ae ein ffydd Gristnogol bob amser wedi鈥檌 gwreiddio yn realiti poen a marwoldeb, ond hefyd yng ngwerth anfesuradwy pob person dynol, beth bynnag eu statws cymdeithasol, eu mynediad at adnoddau, neu eu gallu corfforol neu feddyliol.

鈥淵n yr ysbryd hwnnw... rydyn ni鈥檔 rhoi ein cefnogaeth ddiffuant i ymestyn y gofal lliniarol gorau posibl i bawb sydd ei angen, fel nad oes unrhyw derfynau ar y tosturi rydyn ni鈥檔 ei ddangos fel unigolion ac fel cymdeithas.鈥

Pynciau cysylltiedig