大象传媒

'Dim toriadau ar raddfa鈥檙 Alban' medd Eluned Morgan

Eluned Morgan a Lynne Neagle
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Eluned Morgan a Lynne Neagle yn nodi cwblhau鈥檙 broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd

  • Cyhoeddwyd

Ni fydd Cymru yn wynebu toriadau ar raddfa鈥檙 Alban, lle mae llywodraeth yr SNP yn torri 拢500m o鈥檌 chyllideb, meddai Prif Weinidog Cymru.

Bydd gweinidogion Eluned Morgan yn cyflwyno eu cynlluniau gwariant ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi "cymryd cryn dipyn o'r boen yn barod" - cafwyd toriadau ym mhob adran ac eithrio'r GIG yn ei chyllideb ddiwethaf.

Cafodd Ms Morgan ei phenodi i gymryd lle Vaughan Gething ar 么l iddo ymddiswyddo yn yr haf, ac mae disgwyl iddi gyhoeddi ei chabinet yn fuan.

Dywedodd ei bod hi, gydag un eithriad, wedi gwneud "dim addewidion" i'w chydweithwyr.

Dydd Llun fe gyhoeddodd ysgrifennydd cyllid SNP Yr Alban doriadau gwerth hyd at 拢500m i gydbwyso cyllideb y llywodraeth, gan feio cytundebau cyflog y sector cyhoeddus, "llymder" San Steffan, chwyddiant, y pandemig a鈥檙 rhyfel yn Wcr谩in.

Rhybuddiodd academyddion cyn yr etholiad cyffredinol am doriadau serth i ddod i Lywodraeth Cymru, gan amcangyfrif yn 么l ym mis Mehefin y byddai angen i lywodraeth Lafur y DU ddarparu 拢683m arall i osgoi toriadau i feysydd gwariant nad ydynt yn cael eu gwarchod.

Yn y gyllideb ddiwethaf gwelodd pob adran o Lywodraeth Cymru - ac eithrio iechyd a gofal - doriadau mewn termau real, gyda materion gwledig yn cael eu taro waethaf gyda chyfanswm o 拢446m mewn arbedion.

Dywedodd Ms Morgan: 鈥淩ydyn ni wedi gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn yn y ddwy gyllideb ddiwethaf yng Nghymru, felly rydyn ni鈥檔 meddwl ein bod ni wedi cymryd cryn dipyn o'r boen yn barod."

Pan ofynnwyd iddi a allai fod cyllideb fel un Yr Alban, ychwanegodd: 鈥淒ydyn ni ddim yn disgwyl gweld y math yna o sefyllfa, oherwydd rydyn ni eisoes wedi gwneud y dewisiadau anodd hynny.鈥

Swyddi Cabinet - 'addewidion i neb'

Cyhoeddodd Ms Morgan ym mis Awst y byddai Mark Drakeford yn weinidog iechyd dros dro, ond nid yw wedi ad-drefnu'r cabinet yn llawn eto.

Bydd yn rhaid iddi benderfynu a yw am benodi'r cyn-brif weinidog Vaughan Gething i'r cabinet, yn ogystal ag a ddylid rhoi swyddi i bedwar cyn-aelod o'r llywodraeth a ymddiswyddodd er mwyn sbarduno ymddiswyddiad Mr Gething.

Gofynnwyd i Ms Morgan, oedd yn ymweld ag ysgol gyda'r Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle, a oedd presenoldeb Ms Neagle yn arwydd y byddai'n aros yn y swydd.

"Dydw i ddim wedi gwneud unrhyw addewidion i neb" meddai, "ac eithrio Huw Irranca-Davies, sy'n mynd i fod yn ddirprwy brif weinidog."

Roedd Ms Morgan a Ms Neagle yn nodi cwblhau'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd - rhywbeth a ddatblygwyd gyda Phlaid Cymru tra bod cytundeb cydweithredu mewn grym.

Amddiffynnodd y prif weinidog y gwariant ar brydau ysgol am ddim yng nghanol y sefyllfa ariannol anodd.

鈥淩oedd yna stigma yn aml yn gysylltiedig 芒 phobl oedd yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim, ac felly rydyn ni wedi cael gwared ar hynny mewn ysgolion cynradd,鈥 meddai.

'Haf o ddiffyg gweithredu'

Beirniadodd Plaid Cymru y prif weinidog ddydd Mawrth, gan gyhuddo ei llywodraeth o "haf o ddiffyg gweithredu" dros broblemau'r gwasanaeth iechyd fel amseroedd aros.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Gallai penodiad dros dro Mark Drakeford gael ei weld fel penderfyniad a wnaed i ddyhuddo'r meinciau Llafur yn dilyn misoedd o anhrefn ac anrhefn."

Dywedodd Ms Morgan: 鈥淔e wnes i鈥檔 gwbl glir fy mod i鈥檔 mynd i gymryd yr haf i wrando, i ddeall blaenoriaethau鈥檙 cyhoedd, a dyna dwi wedi bod yn ei wneud.

鈥淕allaf fod yn gwbl glir y bydd rhai blaenoriaethau wedi鈥檜 gosod erbyn inni gyrraedd yn 么l i'r Senedd, pan fydd yn dechrau鈥檔 iawn ymhen ychydig wythnosau.鈥

'Bysedd yn ei chlustiau'

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: 鈥淢ae鈥檙 prif weinidog yn amlwg wedi cael ei bysedd yn ei chlustiau yn ystod ei 鈥榯haith wrando鈥 fel y gelwir.

鈥淢ae Llafur Keir Starmer wedi gwneud y penderfyniad gwleidyddol i wthio pensiynwyr i dlodi tanwydd trwy dorri鈥檙 Taliad Tanwydd Gaeaf, ac eto mae鈥檙 Farwnes Morgan wedi methu 芒 herio鈥檙 penderfyniad hwn.

鈥淵n hytrach na rhoi blaenoriaeth i greu mwy o wleidyddion yn y Senedd, dylai鈥檙 Farwnes Morgan ganolbwyntio ar gadw pensiynwyr Cymru yn gynnes y gaeaf hwn.鈥

Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio ym mis Awst bod y toriad i'r taliad tanwydd gaeaf yn peryglu gwthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.