Galw am ailedrych ar strategaeth gofal canser i blant
- Cyhoeddwyd
Mae angen edrych eto ar strategaeth trin canser ymhlith plant yng Nghymru, yn 么l elusen Tenovus.
Maen nhw鈥檔 dadlau na ddylai plant ac oedolion gael eu trin yn yr un ffordd, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.
"Mae鈥檔 bwysig ein bod ni yn gwahanu鈥檙 strategaeth, ac yn cael strategaeth arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc," meddai Lowri Griffiths o'r elusen.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n mynnu eu bod "wedi ymrwymo i ddarparu鈥檙 gofal gorau posib i blant a phobl ifanc 芒 chanser".
- Cyhoeddwyd28 Mehefin
- Cyhoeddwyd15 Mai
Cafodd Jacob Crane o Abertawe ddiagnosis o lewcemia yn 2022, ychydig ddyddiau wedi ei ben-blwydd yn 16 oed.
Wedi'r diagnosis, fe ddaeth ei deulu a鈥檌 ffrindiau ynghyd i godi dros 拢20,000 i鈥檙 achos.
Ond wedi i Jacob guro鈥檙 canser unwaith, fe ddaeth y newyddion ei fod wedi dychwelyd am yr eildro, a bu farw ar 7 Mai eleni yn 17 oed.
Cafodd Sefydliad Jacob Crane ei sefydlu yn ei enw er mwyn codi arian a dangos cefnogaeth i deuluoedd sy鈥檔 mynd trwy鈥檙 un profiad.
"Ni moyn cefnogi teuluoedd eraill a moyn iddyn nhw wybod fod pobl 'da nhw a'n deall beth maen nhw'n mynd trwyddo, achos ni 'di mynd trwyddo fe gyda Jacob," meddai ei fam, Jess Jones.
"O'dd e mor garedig, oedd e wastad yn chwerthin a gwenu, a bydd e'n edrych lawr nawr yn dweud ein bod ni wedi gwneud y peth gorau allwn ni wneud yn ei enw fe.
"Ni'n rili balch o hynny."
Yn 么l Evan Dalton, un o ffrindiau Jacob, mae鈥檔 bwysig cadw ei enw a鈥檌 feddylfryd yn fyw.
"O'dd e'n galed, a ma' fe dal yn galed hyd heddiw, a fi'n credu bydd e'n galed am flynyddoedd a blynyddoedd," meddai.
鈥淵r unig beth oedd e moyn 'neud trwy gydol ei fywyd oedd helpu pobl eraill.
"Yn ei enw ef 'nawn ni 'neud yn union hynny."
Fel rhan o ymgyrch codi arian at Sefydliad Jacob Crane, bydd degau o bobl yn rhedeg ras 10k Abertawe yn ei enw ddydd Sul.
'Anghenion gwahanol iawn i oedolion'
Yn ddiweddar, ar yr hyn fyddai wedi bod yn ben-blwydd Jacob yn 18 oed, cafodd tair ystafell eu hagor yn enw Sefydliad Jacob Crane yn llety Ronald McDonald House ger Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd.
Elusen sy鈥檔 rhoi cymorth a llety i bobl sy鈥檔 dioddef o ganser yw Ronald McDonald House.
Bu鈥檙 elusen hon yn gymorth i Jacob a鈥檌 deulu yn ystod ei salwch.
Ond galw am fuddsoddiad pellach mae Lowri Griffiths, sy鈥檔 gweithio i elusen Tenovus.
鈥淎r hyn o bryd mae鈥檙 strategaeth sydd gennym ni ar gyfer canser yng Nghymru yn rhoi plant a phobl ifanc i mewn hefo oedolion," meddai.
"Does 'na ddim gwahaniaeth yn be' 'da ni'n dweud sydd ei angen ar bobl ifanc.
"Mae鈥檔 bwysig ein bod ni yn gwahanu鈥檙 strategaeth, ac yn cael strategaeth arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc ar gyfer y dyfodol fel ein bod ni'n medru darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, sy鈥檔 hollbwysig gan fod ganddyn nhw anghenion gwahanol iawn i oedolion.鈥
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淩ydym wedi ymrwymo i ddarparu鈥檙 gofal gorau posib i blant a phobl ifanc 芒 chanser.
"Mae鈥檙 GIG yng Nghymru yn gweithio i safonau NICE ar gyfer canser plant a phobl ifanc.
鈥淢ae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n ofynnol i鈥檙 GIG yng Nghymru ddarparu llwybr gofal y cytunwyd arno鈥檔 genedlaethol ar gyfer canser plant, ac mae gwasanaethau i blant 0-15 oed yn gorfod cydymffurfio 芒 gofynion Cydbwyllgor Comisiynu鈥檙 GIG.鈥