大象传媒

Agor cwest i farwolaeth bachgen pedwar mis oed yn Sir Benfro

Clunderwen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yng Nghlunderwen ar 18 Hydref

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaeth bachgen pedwar mis oed yn Sir Benfro.

Bu farw Kali Creed Green yng Nghlunderwen ar 18 Hydref.

Cafodd dynes 19 oed a dyn 23 oed eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn wedi'r digwyddiad a'u ryddhau ar fechn茂aeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Fe agorodd crwner cynorthwyol Sir Benfro, Gareth Lewis gwest i farwolaeth Kali ddydd Mercher.

Wrth roi ei hadroddiad, dywedodd swyddog y crwner PC Carrie Sheridan: "Er gwaethaf ymdrechion gorau鈥檙 gwasanaethau brys yn y fan a鈥檙 lle, cafodd y farwolaeth ei chyhoeddi gan y parafeddygon a oedd yn bresennol.

"Cafodd post-mortem ei gynnal; nid yw'r canlyniadau'n hysbys ar hyn o bryd."

Cynigiodd Mr Lewis ei gydymdeimlad 芒 theulu Kali a gohiriodd y cwest er mwyn i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.

Gosododd ddyddiad dros dro o 11 Ebrill 2025 ar gyfer y gwrandawiad nesaf.