Dyfodol rhai ffermydd yn 'amhosib' ar 么l rheolau etifeddiaeth newydd
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ffermwyr yng Nghymru wedi ymateb yn chwyrn i'r cyhoeddiad yngl欧n 芒 threth etifeddiant oedd yn rhan o'r Gyllideb newydd ac mae yna feirniadu hefyd am y dryswch.
Yn 么l Huw Roberts, cyfrifydd sy鈥檔 cynnig cyngor ar dreth etifeddiaeth, mae鈥檙 newidiadau a gyhoeddwyd ddydd Mercher yn 鈥渄dychrynllyd鈥 i unrhyw fferm sydd yn fwy na 100 erw.
鈥淕wedwch bo rhywun yn ffermo busnes a bod gyda fe 400 erw o dir, gwedwch bo hwnnw gwerth 拢8,000 yr erw, mae hyn yn creu gwerth tir o 拢3.2m," meddai.
"Ystyriwch y stoc, tractors ac adeiladau, galle chi fod lan i 拢4 miliwn.
"Bydd y miliwn gyntaf yn ddi-dreth, bydd y 拢3 miliwn nesaf yn drethadwy at 20%, sef bil o 拢600,000 o dreth. Ma鈥 hwnna鈥檔 fil enfawr.
"Mae鈥檔 drychinebus ar y ffermwyr 'ma, ma' trueni mawr 'da fi amdano unrhyw un sy 'di gweithio mor galed 芒 hyn trwy ei fywyd, i adeiladu fferm i roi i鈥檞 blant e neu hi ac mae鈥檙 rheolau wedi newid yn llwyr.
"Os maen nhw鈥檔 talu fe dros gyfnod, mae鈥檙 llog yn uchel iawn. Os mae arnoch chi 拢600,000, byddan nhw鈥檔 rhoi pum neu deng mlynedd i chi dalu fe, ond chi鈥檔 talu llog ar 么l chwe mis, a ma' llog yn unig yn 9%, ma鈥 hwnna yn 拢54,000 y flwyddyn, mwy na elw lot o ffermydd. Mae e鈥檔 ben tost llwyr iddyn nhw."
Ddydd Iau fe ddywedodd y Prif Weinidog, Keir Starmer, fod y lwfans yn 拢2m i fferm deuluol arferol cyn bod yn rhaid talu treth etifeddiaeth - hynny gan bod lwfansau eraill gwerth 拢1m ar gael i b芒r priod.
Yn gynharach dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru bod maint cyfartalog fferm yng Nghymru tua 120 erw, ac o ganlyniad, mae gwerth tir ac adeiladau y rhan fwyaf o ffermwyr gwerth dros 拢1m.
Mae Stephen James yn ffermio ar fferm Gelliolau, ger Clunderwen sydd ar y ffin rhwng Sir G芒r a Sir Benfro.
Mae'n cadw ychydig dan 400 o wartheg ac yn ffermio gwerth 600 erw o dir, ac mae o'r farn mai ffermwyr teuluol fydd yn cael eu heffeithio fwyaf yn sgil y newid.
鈥淢ae gymaint o ffermydd teuluol yng Nghymru ac ma'r ffaith bod y tax extra 'ma yn mynd i ddod ar bobl pan maen nhw鈥檔 pasio鈥檙 tir 'mlan i鈥檙 mab neu鈥檙 ferch, mae e鈥檔 mynd i gael effaith ar y teulu 'na, achos ma' nhw鈥檔 mynd i orfod talu tipyn o tax ar ben pob taliad arall sydd gyda nhw," meddai.
"Ma' arian yn ddrud i fenthyg ar hyn o bryd, ma' hwnna鈥檔 'neud e bron 芒 bod yn amhosib, ac i nifer bydd e鈥檔 amhosib a bydd rhaid gwerthu鈥檙 fferm.鈥
'Gwneud dolur' i'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr
Am flynyddoedd, mae rhyddhad treth yr APR wedi galluogi ffermwyr bach teuluol i gael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf.
Yn 么l Stephen, mi fydd y rhan fwyaf o ffermwyr Cymru yn cael eu heffeithio gyda鈥檙 dreth etifeddiaeth oherwydd bod eu gwerth wedi cynyddu dros amser.
鈥淢ae鈥檙 APR wedi bod mor bwysig i ni yn y diwydiant i helpu'r cenedlaethau nesaf i gadw ffermio, 'na beth ni鈥檔 mynd i golli os ma' hwn yn mynd ymlaen,鈥 meddai.
鈥淢a' ffermydd heddi', s鈥檇im lot o dan filiwn o bunnoedd achos gwerth y tir. Bach iawn o ffermydd sy鈥檔 gallu para dan 100 erw nawr wrth jyst ffermio wrth eu hunain."
Gyda鈥檌 fab yn gweithio ar y fferm deuluol hefyd, ac yn debygol o etifeddu鈥檙 fferm, dywedodd: 鈥淥鈥檔 i鈥檔 prynu tir yn y 60au am 拢1,000 yr erw, llai na 'ny. Nawr, chi鈥檔 siarad am 拢10,000 yr erw.
"Yr un tir dwi鈥檔 ffermio鈥 Os chi eisiau cadw fe鈥檔 y teulu, dyw e ddim werth dim byd鈥 鈥橬a pryd mae e鈥檔 mynd i wneud dolur, pan mae鈥檙 perchennog yn marw a鈥檙 genhedlaeth nesa sy'n mynd i orfod talu鈥檙 tax.鈥
- Cyhoeddwyd30 Hydref
- Cyhoeddwyd18 Hydref
- Cyhoeddwyd10 Hydref
Mae Llywodraeth y DU yn dweud mai tua 2,000 o ffermydd fyddai'n cael eu heffeithio gan y newid, ond mae undebau yn dadlau fod y ffigwr yn nes at 70,000.
"Un o'r ffactorau pwysig ydy be' 'da chi'n ei roi fel gwerth ar dir," meddai Dei Davies sy'n ffermio yn ardal Treffynnon.
"Mae 'na dir 'di bod yn gwneud 拢15,000 yr acer rownd ffor' hyn, ac eto mae 'na rai yn gwneud 拢6,000 i 拢7,000 yr acer."
Ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd Mr Davies, sydd hefyd yn gyn-gadeirydd pwyllgor llaeth Undeb Amaethwyr Cymru, fod y newidiadau yn bryder mawr.
"Yn arbennig y ffermydd mwya' 'ma, lle mae gwerth tir yn fwy na 拢1m, fydd yn rhaid talu dipyn o dreth i'r llywodraeth.
"I rywun ifanc sy'n cymryd drosodd gan ei rieni, dd'udwn ni, ydy o yn medru cymryd drosodd? Fydd o'n gorfod benthyg pres i dalu'r treth 'ma?"
Dywedodd llywydd undeb NFU Cymru, Aled Jones ei fod yn "hynod siomedig" gyda'r cyhoeddiad.
"Alla i ddim dweud wrthoch chi mewn termau digon cryf mewn gwirionedd, pa mor siomedig ydw i am be' sydd yn y Gyllideb," meddai.
"Mi oedd 'na synau ers peth amser, ac eto, roedden ni wedi cael ymrwymiad gan y prif weinidog presennol yn ein cynhadledd ni n么l ym mis Chwefror, na fyddai o'n effeithio dim ar dreth etifeddiaeth.
"Ma' hyn yn mynd yn hollol groes i'r holl ymrwymiad ma' nhw 'di roi."
'Cynllun creulon'
Mae undeb yr NFU wedi disgrifio'r penderfyniad fel un 鈥渢rychinebus鈥 i ffermwyr teuluol ac wedi cyhuddo鈥檙 llywodraeth o 鈥渄orri addewidion鈥 yngl欧n 芒 rhyddhad eiddo amaethyddol.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon "difrifol" am y newid sydd, yn eu barn nhw, yn debygol o effeithio ar fwyafrif o ffermydd teuluol Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru ddydd Mercher fod y Gyllideb yn "peryglu dileu cenhedlaeth o ffermydd teuluol - asgwrn cefn cymunedau gwledig ledled Cymru".
Yn 么l yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd dros Preseli Penfro, Paul Davies, fe fydd y Gyllideb newydd yn "dinistrio'r diwydiant amaeth yn Sir Benfro".
"Mae'r cynllun creulon yma yn tanseilio'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr, gan mai nhw fydd yn gorfod talu'r biliau wrth i ffermydd teuluol gael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall," meddai Mr Davies mewn datganiad.