大象传媒

5 cornel o Gymru ar ochr arall y ffin

Mae dwy hen ardal Gymreig Ergyng ac Ewias yn ochr Lloegr o'r ffin erbyn hynFfynhonnell y llun, Mike Parker
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dwy hen ardal Gymreig Ergyng ac Ewias ar ochr Lloegr o'r ffin erbyn hyn

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Yr awdur Mike Parker sydd wedi dewis pump o lefydd Cymreig yr ochr draw i Glawdd Offa (Offa's Dyke) i fynd am dro i'w gweld.

Mae Mike wedi ysgrifennu llyfr am y ffin rhwng Cymru a Lloegr, All the Wide Border: Wales, England and the places between.

Ffynhonnell y llun, Marian Delyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wedi ei eni ddim ymhell o'r ffin yn Lloegr mae Mike Parker yn byw yng Nghymru erbyn hyn

Coedwig Colunwy (Clun Forest)

Ffynhonnell y llun, Mike Parker
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Coedwig Colunwy

Coedwig Colunwy yw ardal fwya' gorllewinol Lloegr ar hyd ffin Cymru. Mae 'na nifer o olygfeydd prydferth a phentrefi bychain.

Mae gan Bettws-y-Crwyn eglwys hardd iawn.

Mae'n dda i weld Castell Bryn Amlwg ac yr hen Anchor Inn, sef yr ysbrydoliaeth ar gyfer nofel enwog Mary Webb, Seven for a Secret. Ysgrifennodd hi bod yr ardal yn gorwedd 'between the dimpled lands of England and the gaunt purple steeps of Wales - half in faery and half out of it'.

Croesoswallt (Oswestry)

Ffynhonnell y llun, Mike Parker

Mae Croesoswallt yn disgrifio ei hun fel 'tref fwya' Cymreig Lloegr', a mae hynny yn dweud y cyfan!

Cyn yr oes Normanaidd, roedd ardal gorllewin Swydd Amwythig yn rhan o deyrnas Gymreig o'r enw Pengwern. Mae'r cysylltiad Cymreig yma dal yn amlwg yn ardal Croesoswallt.

Mae llawer i'w weld yn y dref gan gynnwys amgueddfa ddiddorol, marchnad ardderchog, tafarndai croesawgar a theithiau cerdded yn yr ardal.

Fforest Ddena

Ffynhonnell y llun, Mike Parker

Roedd y dramodydd enwog Dennis Potter yn disgrifio Fforest Ddena fel 'the heart-shaped place between two rivers'.

Mae'n eistedd rhwng ochr Seisnig yr Afon Gwy ac ochr Gymreig Afon Hafren.

Mae y goedwig yn hyfryd, ond mae gweddillion diwydiant i'w gweld mewn llefydd. Mae'r pentrefi yn daclus, ond mae'r blodau wedi eu hanner bwyta ar ochr y ffordd gan fod hwn yn gartref i boblogaeth baedd gwyllt mwyaf Prydain.

Mae'r Forest of Dean Sculpture Trail yn daith cerdded yn yr ardal. Fel yn y Cymoedd, roedd glowyr Dena yn hoff iawn o rygbi, bandiau pres a hyd yn oed eisteddfodau. Mae'n ardal unigryw!

Ergyng ac Ewias

Ffynhonnell y llun, Mike Parker

Mae Ergyng ac Ewias yn ddwy deyrnas Gymreig cafodd eu gwahanu oddi wrth Gymru canrifoedd yn 么l. Ergyng (Archenfield yn Saesneg) yw rhan dde-orllewinol Swydd Henffordd: tir sy'n llawn caeau, tafarndai ac eglwysi.

Dyma lle mae'r Herefordshire Romanesque, enghreifftiau gwych o waith cerrig o gyfnod y Normaniaid. Y mwyaf rhyfeddol ohonynt i gyd yw Llanddewi Cil Peddeg (Kilpeck), hen brifddinas Ergyng.

Yn agos at y ffin fodern mae teyrnas fechan Ewias, gan gynnwys Dyffryn Aur a Dyffryn Olchon. Mae'n dda i'w weld ar droed neu feic. Yma, mae angen i chi fynd yn araf.

Y Ddyfrdwy

Ffynhonnell y llun, Mike Parker

Gallwch sefyll ar y bont dros yr afon Dyfrdwy sydd yn cysylltu trefi Holt (sir Ddinbych) a Farndon (Swydd Caer).

Mae'r trefi yn yr ardal yn werth eu gweld: Holt gyda'i gapeli, terasau brics coch a'i gastell, a Farndon yn llawn villas.

Mae'r Ddyfrdwy yn llawn pethau diddorol - ewch am dro o Farndon i Aldford, pentre 蝉迟芒诲 Grosvenor (Dugiaid Westminster).

Neu ewch i ochr arall Caer. Yn swyddogol, Cymru yw e, ond mae'n teimlo fel lle gwahanol iawn.

Geirfa

Clawdd Offa / Offa's Dyke

gorllewinol / westerly

ffin / border

ysbrydoliaeth / inspiration

teyrnas / kingdom

cysylltiad / connection

gweddillion diwydiant / remains of industry

baedd gwyllt / wild boar

unigryw / unique

gwahanu / separate

de-orllewinol / south-westerly

gwaith carreg / stone work

prifddinas / capital city

terasau / terraced houses

蝉迟芒诲 / estate

Dugiaid / Dukes

Pynciau cysylltiedig