Gwaharddiad gyrru i b锚l-droediwr am fethu rhoi gwybodaeth i'r heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae p锚l-droediwr yn Uwchgynghrair Lloegr wedi cael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis wedi i lys ei gael yn euog o fethu 芒 datgelu gwybodaeth i'r heddlu am drosedd gyrru yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd chwaraewr canol cae Chelsea a'r Ariannin, Enzo Fernandez, ei ddyfarnu'n euog gan ynadon ym mis Gorffennaf o beidio dweud wrth Heddlu Dyfed-Powys pwy oedd gyrrwr car Porsche oedd yn cael ei amau o yrru drwy olau coch yn Llanelli ar 28 Tachwedd 2023.
Cafodd ei ddyfarnu'n euog hefyd o fethu 芒 rhoi gwybod pwy oedd yn gyrru'r un car oedd yn cael ei amau o oryrru ar Ffordd Caerfyrddin, Abertawe ar 20 Rhagfyr 2023.
Does dim prawf mai Mr Fernadez oedd y gyrrwr ar y ddau achlysur, ond fe glywodd y llys nad oedd wedi ymateb i geisiadau am wybodaeth yngl欧n 芒 phwy oedd yn gyrru'r care.
Mae'r gwaharddiad gyrru yn dod i rym yn syth.
Mae Enzo Fernandez eisoes wedi cael naw pwynt ar ei drwydded wedi tair trosedd goryrru rhwng 8 Awst, 2023 a 3 Mawrth 2024.
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf
Fe roddodd Cadeirydd yr Ynadon, Wyn Evans, chwe phwynt cosb yr un yn achos y ddwy drosedd, gan ddod 芒'r cyfanswm ar ei drwydded yrru i 21.
Yn ogystal 芒'r gwaharddiad gyrru, bydd yn rhaid i Fernandez dalu cyfanswm o 拢3,020 mewn dirwyon a chostau.
Fe gafodd orchymyn i dalu dirwy o 拢1,000 a 拢100 o gostau i Heddlu Dyfed-Powys mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad yn Llanelli.
Mae hefyd yn gorfod talu dirwy o 拢1,000 i Heddlu De Cymru, ynghyd 芒 thaliad ychwanegol o 拢800 a 拢110 o gostau.
Fe fydd yn rhaid iddo dalu'r holl arian erbyn 9 Hydref.
Absennol o'r llys
Fel yn achos y gwrandawiad blaenorol, nid oedd y chwaraewr 23 oed y talodd Chelsea dros 拢106m amdano yn y llys i glywed y ddedfryd.
Fe chwaraeodd i'r Ariannin ddydd Mawrth wrth i'w d卯m golli yn erbyn Colombia mewn g锚m ragbrofol Cwpan y Byd.
Roedd yn aelod o'r t卯m a enillodd Cwpan y Byd yn 2022 ac fe ymunodd 芒 Chelsea yn 2023.
Roedd dogfennau'r llys yn nodi dau gyfeiriad ar ei gyfer - un yn Kingston upon Thames a maes hyfforddi Chelsea oedd y llall.