Cymru'n cynnal arbrawf saethu ffilmiau carbon niwtral
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru鈥檔 arwain yr ymdrech i dorri 么l-troed carbon y sector ffilm a theledu ym Mhrydain gyda chynllun i gyrraedd targedau sero net.
Fe allai mwy o gynhyrchiadau mawr Netflix a Disney gael eu denu i Gymru yn sgil yr ymdrech o ran cynaliadwyedd, yn 么l arbenigwyr y sector.
Mae Sefydliad Ffilmiau Prydain a'r mudiad amgylcheddol Albert wedi dewis Cymru ar gyfer cynllun peilot arbennig.
Bydd gofyn i gynhyrchiadau ddefnyddio ynni adnewyddadwy, ailgylchu gwisgoedd a setiau a pheidio defnyddio diesel.
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2023
鈥淢ae鈥檔 her enfawr,鈥 meddai Tilly Ashton, cyd-lynydd cynaliadwyedd ar gyfer y sector ffilm a theledu.
鈥淢ae rhai pobl wedi bod yn gweithio yn y diwydiant am gyfnod hir ac mae ganddyn nhw ffyrdd penodol o weithio y maen nhw'n gwybod sy'n gweithio orau iddyn nhw.
"Rydych chi hefyd o dan gymaint o bwysau amser a does gan neb amser i feddwl am ffyrdd eraill o wneud pethau.
鈥淵r hyn rydw i wedi canolbwyntio arno i ddechrau yw鈥檙 camau hawdd. Er enghraifft, dylunio systemau ailgylchu ar y set a chydweithio gyda chyflenwyr gwych sy鈥檔 gallu rheoli ein gwastraff, yn ogystal a dod o hyd i ffyrdd o gyfrannu a storio ac ailddefnyddio adnoddau.
"Ond yr her mwyaf yw trafnidiaeth sy鈥檔 cyfri am oleiaf hanner ein 么l-troed carbon,鈥 ychwanegodd.
Pum targed
Cymru yw gwlad gyntaf y DU i gymryd rhan mewn menter nodedig i sicrhau bod pawb yn y sector ffilm a theledu'n cael cefnogaeth i gyrraedd targedau carbon niwtral Llywodraeth Cymru.
Mae'r mudiad Albert, sy鈥檔 gosod safonau cynaliadwyedd ar gyfer y sector ac yn cael ei ariannu gan BAFTA, wedi amlinellu pum targed er mwyn torri 么l-troed carbon cynhyrchiadau
Mae rheiny'n cynnwys defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy, ailfeddwl faint o drafnidiaeth sy鈥檔 cael ei defnyddio a thorri'n 么l ar drafnidiaeth diesel yn enwedig.
Yn 么l y data diweddaraf, roedd cynyrchiadau Cymru'n fwy dibynnol ar ddiesel yn 2022 o gymharu 芒 chyfartaledd y DU.
Roedd dibyniaeth cynyrchiadau Cymreig ar deithio ar y ffyrdd bron ddwywaith cymaint 芒 chyfartaledd y DU - ond roedd teithiau awyr yn cyfrif am 14% o allyriadau trafnidiaeth, a oedd yn llawer is na chyfartaledd y DU.
Mae angen creu systemau ailgylchu effeithiol hefyd, a chreu economi gylchol trwy ailddefnyddio deunydd, bwyd a setiau neu eu rhoi i gymunedau lleol.
Hefyd mae yna alw am ragor o hyfforddiant o fewn y sector er mwyn sicrhau bod timau cynhyrchu'n hyderus wrth gynllunio cynyrchiadau cynaliadwy.
'Gwneud pethau mor hawdd 芒 phosib' i gynhyrchwyr
鈥淩ydym wedi siarad 芒 llawer o stiwdios Hollywood," dywedodd yr Athro Justin Lewis, cyfarwyddwr y mudiad cydweithredol Media Cymru.
"Mae鈥檔 gwbl amlwg byddai ganddynt ddiddordeb mawr mewn ffilmio yng Nghymru pe baent yn gwybod bod Cymru yn lle hawdd i wneud ffilmiau carbon niwtral...
"Mae ganddyn nhw ddiddordeb yn hynny hefyd - maen nhw wedi gwneud ymrwymiadau eu hunain. Felly os gwnewch chi bethau mor hawdd 芒 phosib iddyn nhw, byddai hynny'n atyniad mawr iddyn nhw.鈥
'Mae wedi bod yn agoriad llygaid'
Un cwmni cynhyrchu sydd eisoes wedi penodi Tilly Ashton fel eu cyd-lynydd cynaliadwyedd nhw yw Severn Screen sy鈥檔 gyfrifol am y cyfresi Craith a Steeltown Murders.
鈥淢ae wedi bod yn agoriad llygaid," medd Pennaeth Strategaeth a Gweithredu'r cwmni, Mathew Talfan.
"Mae cael rhywun lle eu job nhw yw canolbwyntio ar hwn, wedi gweddnewid y ffordd ni鈥檔 gweld ein hunain a sut rydyn ni鈥檔 gweithio.
"Proses yw hwn lle rydyn ni gyd yn trio gwella y ffordd rydyn ni鈥檔 gweithio a dyw hyn ddim am ddigwydd dros nos ac mae angen i ni gydweithio.
鈥淔e ddangosodd y pandemig bod gan y diwydiant y gallu i newid y ffordd mae鈥檔 gweithio dros nos, felly mae modd gwneud newid.
"Efallai yn y dyfodol bydd yr un maint o newid yn cael ei wneud ar gyfer cynaliadwyedd, ond mae angen sicrhau ein bod ni鈥檔 rhoi鈥檙 statws mae鈥檙 her i fod yn fwy cynaliadwy yn ei haeddu.鈥
Dywedodd Dirprwy Gweinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden bod "manteision a photensial y diwydiant yn enfawr i Gymru".
Ychwanegodd: "Yn unol 芒鈥檔 hymrwymiad i adeiladu Cymru wyrddach rhaid inni ganolbwyntio ar sicrhau ein bod i gyd yn gweithio gyda鈥檔 gilydd i leihau鈥檙 effaith ar ein hamgylchedd a nodi ffyrdd y gall y diwydiant sgrin lwydddo gyda chynaliadwyedd ar y blaen.鈥