Teyrnged i dad fu farw wedi i gar daro becws
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a fu farw wedi i gar daro becws yn Wrecsam fore Llun wedi talu teyrnged iddo.
Roedd Ryan Anthony Bagnall yn 26 oed ac yn dod o ardal Gwersyllt ar gyrion y ddinas.
Bu farw ychydig ar 么l cael ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam wedi i'r Vauxhall Corsa gwyn roedd o'n ei yrru daro ffenestr flaen becws Gerrards ar Ffordd Rhuthun ychydig wedi 02:00.
Mae dynes oedd yn teithio yn y car yn parhau i gael triniaeth at "anafiadau sylweddol" mewn ysbyty yn Stoke.
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2023
鈥淩oedd Ryan yn r么g gofalgar a hoffus," dywedodd ei deulu mewn datganiad.
"Roedd yn dad ffyddlon i'w ddwy ferch ac fe fydd yn cael ei golli gan ei deulu a'i ffrindiau.
"Gofynnwn nawr am breifatrwydd wrth i ni alaru."
Mae ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru i'r achos yn parhau.
Dywedodd y Sarjant Steve Richards o Uned Plismona'r Ffyrdd: 鈥淓r i'r gwrthdrawiad yma ddigwydd yn yr oriau m芒n, rydym yn parhau i annog unrhyw un all fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un all fod 芒 lluniau dash cam neu CCTV, i gysylltu 芒 ni.鈥