Oriel: 170 o feicwyr ar lonydd Pen Ll欧n
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos roedd lonydd Pen Ll欧n yn batrymau lliwgar o feiciau modur yn gyrru mewn confoi.
Roedd 170 o feiciau modur yn rhuo o bentref i bentref gydag un bwriad: i gasglu arian i achosion da.
Mae'r ddefod yn un flynyddol, gyda Chlwb Beicwyr Ll欧n yn trefnu'r rali.
Mae'r clwb wedi bod mewn bodolaeth ers 2010, ers i glwb beicio Abersoch and District a sefydlwyd yn 2009 newid ei enw.
Erbyn hyn mae dros 50 o feicwyr yn dod at ei gilydd pob mis gyda'r bwriad o "wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl eraill ac i gael hwyl."
Dyna ddisgrifiad cadeirydd y clwb, Eifion Roberts.
"Mae'r rali flynyddol wedi bod yn digwydd ers 14 blynedd. Rydym wedi casglu bron i 拢72,000 at achosion da," meddai.
Mae aelodau yn teithio o bell a dros y penwythnos roedd beicwyr cyn belled 芒 Birmingham wedi ymuno yn y rali.
Roedd y Maes ym Mhwllheli yn llawn beics o bob maint a lliw ac roedd Arwyn 'Herald' Roberts yno i ddal y cyfan drwy lens ei gamera ar ran 大象传媒 Cymru Fyw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023