Wrecsam wedi hedfan i draean o'u gemau oddi cartref
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil gan 大象传媒 Sport wedi datgelu bod Wrecsam wedi hedfan i dros draean o'u gemau cynghrair oddi cartref y tymor diwethaf.
Fe wnaeth y clwb hedfan 16 gwaith - i ac o wyth g锚m - o fewn y DU yn ystod y tymor, i herio timau fel Eastleigh, Gateshead a Barnet.
Roedd hynny'n cynnwys hediadau mor fyr 芒 29 munud, gyda'r amser cyfartalog yn 43.5 munud.
Mae'r clwb wedi cael cais am sylw.
'Peidiwch hysbysebu teithio awyr'
Mae nifer o glybiau yn Uwch Gynghrair Lloegr yn dewis hedfan i gemau er mwyn helpu chwaraewyr i adfer.
Ond does dim tystiolaeth bod clybiau eraill yn y Gynghrair Genedlaethol - ble roedd Wrecsam yn chwarae y tymor diwethaf - yn gwneud yr un peth.
Ar hyn o bryd mae'r Dreigiau hefyd ar daith yn yr UDA gan chwarae yn erbyn clybiau fel Manchester United a Chelsea.
Roedd 14 o'r 16 hediad a gymerodd Wrecsam y tymor diwethaf yn rhai i ac o Faes Awyr Manceinion, gyda dwy o Lerpwl.
Yn ogystal 芒 hynny roedd tystiolaeth o 16 hediad arall ble roedd rhaid i awyren deithio i'r meysydd awyr hynny i fod yn barod i'w cludo.
Dywedodd Katie Cross o fudiad Pledgeball, sy'n lansio siarter teithio cynaliadwy i glybiau p锚l-droed, fod peryg bod yr "effaith amgylcheddol cynyddol" yn bwrw cysgod dros lwyddiant diweddar y clwb.
"Dychmygwch petai Wrecsam yn dewis blaenoriaethu cynaliadwyedd amgylcheddol yn eu penderfyniadau, a defnyddio eu proffil i wthio hynny i fyny'r agenda p锚l-droed?" meddai.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd yr ymgynghorydd amgylcheddol Mari Arthur "nad oes esgus i hedfan".
"Mae ffurfiau trafaelu lot mwy gwyrdd mas 'na," meddai.
"Mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i ddewis ffyrdd gwell o drafaelu, ac mae cyfrifoldeb gan fusnesau i wneud yr un peth."
'Ffordd well o deithio i'r chwaraewyr'
Ond mae Elain Sian yn ffisiotherapydd chwaraeon, ac wrth siarad ar Dros Frecwast, fe ddywedodd fod teithiau byr o fantais yn gorfforol i chwaraewyr.
"Mae gynnon nhw arian i wneud o, arian nad oedd gynnon nhw o'r blaen," meddai wrth gyfeirio at Wrecsam.
"Mae'n ffordd well o deithio ar gyfer y chwaraewyr.
"Os 'di o'n cymryd pedair neu bump awr mewn car neu fws mae'r cyhyrau yn mynd i fod yn dynn, maen nhw'n mynd i suffero o ran y coesau, llinyn y gar, calf muscles, mae'r cyhyrau'n mynd yn stiff wrth orfod eistedd i lawr.
"Yn enwedig os ydi'r g锚m y noson honno.
"Mae'n bwysig bo' nhw'n teithio yn y ffordd gyflymaf y gallan nhw."
Ond fe wnaeth hi gydnabod mai ochr arall y geiniog yw'r elfen amgylcheddol.
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
Mae cyd-berchnogion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn dweud mewn neges ar wefan clwb mai eu hamcanion yw i geisio sicrhau "fersiwn mwy ecolegol-gynaliadwy o'r clwb a'r stadiwm".
Ond mae rhai ymgyrchwyr yn teimlo felly na ddylai clybiau p锚l-droed fod yn defnyddio cwmn茂au hedfan fel noddwyr, fel mae Wrecsam yn gwneud y tymor hwn gydag United Airlines.
"Ddylai Wrecsam ddim fod wedi dilyn esiampl [clybiau'r Uwch Gynghrair]," meddai Frank Huisingh o ymgyrch Fossil Free Football.
"Dylen nhw wneud beth sydd orau i'w cefnogwyr ar draws y byd a rhoi'r gorau i hysbysebu teithio awyr."