Ymchwiliad llofruddiaeth ar 么l canfod dyn yn farw yn y stryd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 36 oed yng Nghasnewydd.
Fe gafodd Heddlu Gwent eu galw i Heol Cas-gwent, Casnewydd, tua 18:00 ddydd Mawrth, 14 Mai, ar 么l i ddyn gael ei ganfod yn ddiymateb gydag anafiadau difrifol.
Roedd yr heddlu ynghyd 芒 pharafeddygon o'r gwasanaeth ambiwlans ar y safle. Fe wnaethon nhw gadarnhau fod y dyn 36 oed wedi marw.
Mae ei berthnasau agos wedi cael gwybod am y sefyllfa ac yn cael gofal gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y prif arolygydd Virginia Davies: "Hoffwn roi gwybod i gymuned Casnewydd ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sefydlu'r amgylchiadau ynghylch ei farwolaeth..
Fe ychwanegodd bod "swyddogion yn parhau 芒'r gwaith yn yr ardal".
Maen nhw'n apelio am unrhyw wybodaeth yn ardal Merriott Place, Casnewydd ar brynhawn y digwyddiad.