IVF: Ansicrwydd am ddyfodol gwasanaeth ffrwythlondeb Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder am ddyfodol gwasanaethau ffrwythlondeb yng Nghymru ar 么l i staff honni eu bod wedi cael gwybod nad yw bellach yn gynaliadwy.
Mae gan Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru glinigau yng Nghastell-nedd Port Talbot a Chaerdydd, a dyma'r unig ganolfannau yng Nghymru sy'n cynnig IVF ar y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad, ei fod wedi bod yn edrych ar gynaliadwyedd hir dymor y gwasanaeth ar 么l trafod 芒'r corff sy'n rheoleiddio gwasanaethau ffrwythlondeb yn y DU.
Mae hyn yn cynnwys ystyried "camau gweithredu tymor byr a thymor hir sydd eu hangen i roi'r gwasanaeth ar sail gynaliadwy", yn ogystal ag "edrych ar gynlluniau wrth gefn".
Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi ceisio tawelu meddyliau unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth, gan fynnu y byddan nhw'n "dal i dderbyn y driniaeth orau posib" a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.
Mae aelodau Plaid Cymru o'r Senedd, Sioned Williams a Luke Fletcher, wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Iechyd yn s么n am rai o bryderon staff.
Dywedodd y llythyr: "Cafodd staff wybod nad oedd y gwasanaeth bellach yn gynaliadwy.
"Rydym yn deall bod tri opsiwn posib wedi'u cyflwyno; dadgomisiynu, lleihau darpariaeth neu gontract allanol.
"Bydd pob opsiwn yn cael effaith ar naill ai staff neu gleifion."
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
Mae'r llythyr yn gofyn pam nad yw pedwerydd opsiwn wedi cael ei ystyried, sef Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwasanaeth yn uniongyrchol.
Cafodd y sefydliad archwiliad rheolaidd gan yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA) - y corff sy'n gyfrifol am orchwylio gwasanaethau ffrwythlondeb yn y DU - ym mis Ionawr.
Er bod yr adroddiad yn nodi meysydd oedd angen eu gwella, cafodd y gwasanaeth drwydded tair blynedd i barhau i gynnig triniaeth ffrwythlondeb, gydag arolygiad interim wedi'i drefnu ar gyfer Ionawr 2024.
'Pwysig cael y gwasanaeth yng Nghymru'
Yn 么l Sioned Williams, mae'r ansicrwydd am ddyfodol y gwasanaeth wedi achosi pryder mawr.
"Roedd hyn i gyd yn sioc ac yn siom ofnadwy i staff oedd ddim yn disgwyl hyn ac sy'n poeni am yr hyn fydd yn digwydd i gleifion.
"Mae'n bwysig iawn bod yr arbenigedd a'r gwasanaethau yma ar gael yng Nghymru, felly mae'r math yma o ansicrwydd yn mynd i boeni nifer o bobl sydd angen y gwasanaeth."
Mae'r cyflwynydd a'r gantores, Elin Fflur yn dweud fod pryderon am ddyfodol gwasanaethau ffrwythlondeb yn "rhywbeth sy'n fy mhoeni fi'n fawr iawn, iawn".
Dywed Elin - sydd wedi bod yn agored iawn am ei phrofiad hi ag IVF - ei bod yn "hawl sylfaenol i fod yn rhiant".
"Wrth i hyn ddigwydd mae o'n troi'n rhywbeth sydd ond ar gael i bobl sy'n gallu fforddio fo a 'da ni'n s么n am lot fawr o bres... miloedd o bunna' bob tro," meddai wrth raglen Dros Frecwast.
Yn gynharach yr wythnos hon, codwyd mater yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog, a Phlaid Cymru yn gofyn am sicrwydd gan Mark Drakeford am ddyfodol hirdymor y gwasanaeth.
Dywedodd Mr Drakeford: "Nid fi sy'n gwarantu pethau.
"Mater i'r sefydliad yw sicrhau ei fod yn darparu gwasanaeth a fydd yn caniat谩u iddo barhau i gael ei drwyddedu, ac, wrth gwrs, dyna'n union yr ydym am ei weld.
"Dyna pam mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a'r bwrdd iechyd lleol yn gweithio gyda'r sefydliad i fynd i'r afael 芒'r materion a nodwyd yn adroddiad yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg.
"Fy nealltwriaeth i yw bod cynnydd ar rai o'r materion hynny, ond nid pob un."
'Mwy o loteri cod post'
Mae elusennau wedi codi pryderon hefyd.
Dywedodd Dee Montague-Coas o gorff Triniaeth Deg i Fenywod Cymru fod y cam yn mynd yn groes i ymdrechion yng ngweddill Prydain i ehangu gwasanaethau ffrwythlondeb.
"Fel elusen sy'n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb ac amrywiaeth mewn gofal iechyd, rydym yn pryderu y gallai hyn olygu hyd yn oed mwy o loteri cod post i gleifion," meddai.
"Mae llawer o'r rhai sydd angen cael mynediad at wasanaethau ffrwythlondeb yn gwneud hynny oherwydd oedi o ran diagnosis a thriniaeth o broblemau iechyd eraill, a gall eu heriau ffrwythlondeb gael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl.
"Os yw Llywodraeth Cymru a'r GIG o ddifrif yngl欧n ag atal problemau iechyd, dylai hyn hefyd gynnwys cadw gwasanaeth ffrwythlondeb."
Dywedodd bwrdd iechyd Bae Abertawe: "Rydym yn ymwybodol o ddyfalu yngl欧n 芒 Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru.
"O ganlyniad i drafodaethau gyda'r HFEA, a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol yng Nghymru... rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar gynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth.
"Gan weithio gyda'r staff, rydym yn edrych ar y camau byr a hirdymor sydd eu hangen i roi'r gwasanaeth ar sail gynaliadwy ac rydym hefyd yn edrych ar gynlluniau wrth gefn.
"Yn y cyfamser, bydd cleifion yn parhau i gael y driniaeth orau posib a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau."
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2022
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau IVF i'r rhai sydd eu hangen.
"Rydym yn ymwybodol bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn gweithio'n agos i fynd i'r afael 芒 materion a godwyd gan yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg ac i barhau i fodloni gofynion trwydded.
"Ar hyn o bryd maen nhw'n edrych ar nifer o opsiynau, gan gynnwys trefniadau wrth gefn, i sicrhau bod cleifion yn gallu parhau i gael triniaethau ffrwythlondeb sy'n bodloni'r safonau ansawdd a nodir gan yr HFEA."