ý

Methiant TVR yn rhan o 'batrwm siomedig' Llywodraeth Cymru

Car TVRFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynnodd perchnogion newydd TVR i beidio adeiladu'r ceir yng Nglyn Ebwy

  • Cyhoeddwyd

Mae methiant Llywodraeth Cymru i ddenu cwmni ceir TVR i Lyn Ebwy yn rhan o “batrwm siomedig”, yn ôl cadeirydd un o bwyllgorau dylanwadol Senedd Cymru.

Dywedodd Mark Isherwood AS, sy’n cadeirio’r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus a gweinyddiaeth gyhoeddus, ei fod yn pryderu am “orwariant sylweddol” wrth geisio denu’r cwmni.

Mae’r archwilydd cyffredinol wedi rhybuddio y gallai trethdalwyr fod ar eu colled o filiynau o bunnau ar ôl i’r gwneuthurwr ceir benderfynu peidio ag adeiladu’r TVR Griffith yn ne Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod TVR wedi ad-dalu benthyciad, a bod eu polisïau wedi bod yn “hynod lwyddiannus” wrth ddenu busnesau i Gymru.

Pan ddechreuodd Llywodraeth Cymru ar eu hymgais i ddenu TVR i Gymru yn 2016 fe wnaethon nhw fuddsoddi £500,000 yn y cwmni newydd oedd yn bwriadu ailddechrau cynhyrchu’r brand eiconig.

Rhoddwyd benthyciad o £2m i’r cwmni tuag at y gost o ddatblygu cerbyd prototeip, ac yn ddiweddarach cafodd adeilad yng Nglynebwy ei brynu a'i adnewyddu er mwyn cynhyrchu’r ceir.

Fe gostiodd yr adeilad £4.75m i'w brynu a £7.6m ychwanegol i'w adnewyddu, gyda’r bwriad o’i osod ar delerau masnachol i TVR.

Ond erbyn dechrau 2024 roedd TVR wedi ad-dalu'r benthyciad gyda llog, ac wedi dweud na fyddai'n cynhyrchu ceir yng Nghymru.

Dywedodd Mark Isherwood ei bod yn ymddangos fod hwn yn rhan o “batrwm ailadroddus, patrwm siomedig, o fuddsoddiadau proffil-uchel” nad oedd wedi sicrhau canlyniad positif i drethdalwyr.

Ffynhonnell y llun, TVR
Disgrifiad o’r llun,

Roedd TVR i fod i adeiladu'r Griffith yng Nghymru yn sgil y cytundeb gyda llywodraeth Cymru

Fel cadeirydd y pwyllgor mae Mr Isherwood yn craffu ar benderfyniadau gwariant y llywodraeth, a dywedodd y byddai’n archwilio'r cytundeb gyda TVR ar ôl yr haf.

“Mae’n fwy na siomedig bod ‘na gyfres o fuddsoddiadau gan Lywodraeth Cymru, neu ddefnydd o adnoddau cyhoeddus, i ddenu busnesau i Gymru gyda’r addewid o fwy o swyddi a thwf economaidd.

“Lle mae hynny wedi methu â chael ei gyflawni, mae’n rhaid cael cydbwysedd rhwng denu busnesau i Gymru, rhywbeth rydyn ni i gyd eisiau ei weld, a’r risgiau sy’n gysylltiedig â hynny,” ychwanegodd Mr Isherwood.

Mewn llythyr at y pwyllgor ym mis Gorffennaf dywedodd yr archwilydd cyffredinol, Adrian Crompton, fod rhaid i Lywodraeth Cymru benderfynu naill ai os oedd am werthu'r safle yng Nglyn Ebwy ar golled, neu ei brydlesu gyda’r gobaith o adennill eu harian.

Amlinellodd y camau gwnaeth swyddogion eu cymryd er mwyn lleihau’r risg i drethdalwyr cyn arwyddo’r cytundeb gyda TVR.

Disgrifiad o’r llun,

Mae adeilad TVR bellach yn cael ei farchnata o dan yr enw Tŷ Technoleg y Cymoedd

Os oedd y llywodraeth am werthu’r adeilad, mae ganddo werth o tua £7.5m, a fyddai’n cynrychioli colled o £4.85m yn erbyn costau prynu ac adnewyddu’r safle.

Os oedd y llywodraeth am ei brydlesu, fe allai gynhyrchu rhwng £7m ac £11m i’r trethdalwr dros 10 i 15 mlynedd, meddai.

Ond dywedodd Mr Crompton mai'r gost wreiddiol i adnewyddu’r adeilad oedd £6.06m, ond bod hynny wedi codi i £7.6m.

Ar ôl derbyn llythyr yr archwilydd, dywedodd Mark Isherwood wrth ý Cymru fod hwn yn cynrychioli “gorwariant sylweddol” ac y byddai ei bwyllgor yn ei archwilio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ei pholisi o ddarparu adeiladau wedi bod yn “hynod lwyddiannus” wrth ddenu cwmnïau i Gymru.

“Mae’n ddull sy’n parhau i ddarparu miloedd o swyddi da, buddsoddiad sylweddol a chyfleoedd cadwyn gyflenwi sylweddol ledled Cymru,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Sutton fod polisi adeiladu ac adnewyddu y llywodraeth yn hanfodol i'r economi

Mae’r llywodraeth yn parhau i fod â buddsoddiad yn y cwmni, a dywedodd y llefarydd fod yr adeilad ar ei newydd wedd yng Nglyn Ebwy “yn gyfle gwych i unrhyw fusnes gaffael cyfleuster gweithgynhyrchu modern yn y rhanbarth.”

Bellach mae adeilad TVR yn cael ei farchnata dan yr enw Tŷ Technoleg y Cymoedd, ac mae ý Cymru ar ddeall ei fod wedi denu diddordeb gan nifer o ddarpar feddianwyr ers iddo gael ei farchnata.

Gerllaw yng Nglyn Ebwy mae adeilad diwydiannol arall o safon uchel, o'r enw Rhyd-y-Blew, gafodd ei adeiladu gan Lywodraeth Cymru ac sydd bellach yn aros am denant.

Mae busnes lleol gyda diddordeb cryf i adleoli yno.

'Angen adeiladau modern, newydd'

Er y feirniadaeth gan y pwyllgor, mae arbenigwyr ym maes adeiladu a busnes yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru o adeiladu ac adnewyddu eiddo ar gyfer y sector breifat.

“Mae datblygu eiddo, safleoedd ac adeiladau yn rhan o’r amgylchedd busnes,” meddai’r syrfëwr siartredig Chris Sutton.

“Y broblem yw, nid yw’n economaidd i gwmnïau eu hadeiladu, felly mae angen cefnogaeth y sector cyhoeddus,” meddai.

Dywedodd fod Blaenau’r Cymoedd yn llawn adeiladau diwydiannol oedd wedi’u hariannu gan yr hen Awdurdod Datblygu Cymru ac sydd bellach yn agosáu at “ddiwedd eu hoes economaidd.”

Mae angen adeiladau “modern, newydd,” meddai Mr Sutton. “Mae adeiladau Gradd A yn denu meddianwyr Gradd A.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae TVR bellach wedi penderfynnu lleoli'r brand yn Thruxton, Hampshire

Mae'r safonau adeiladu sydd wedi’u dilyn gan Lywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â'r prinder adeiladau diwydiannol da, dywedodd Mr Sutton.

“Mae maint y gost o adnewyddu adeilad TVR… yn adlewyrchu maint y broblem sydd gennym ni” o ran diffyg adeiladau o safon uchel, meddai.

Dyw TVR heb ymateb i gais am sylw, ond mae’r cwmni eisoes wedi cadarnhau eu bod wedi ad-dalu ei fenthyciad o £2m i Lywodraeth Cymru ynghyd â’r llog.

Fe wnaeth y cmwni gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023 y byddai’n lleoli ei hun yn Thruxton yn Hampshire, a dywedodd yr archwilydd cyffredinol fod y cwmni wedi cadarnhau i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2024 nad oedd bellach am brydlesu’r ffatri neu leoli ei hun yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig