Llywodraeth i reoli Gwasanaeth T芒n y De wedi adroddiad damniol
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rheolaeth uniongyrchol dros Wasanaeth T芒n De Cymru, wedi i adroddiad damniol s么n am ddiwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod o fewn y gwasanaeth.
Dywedodd y dirprwy weinidog partneriaeth gymdeithasol Hannah Blythyn ei bod hi'n "anodd gweld" y newidiadau gofynnol yn digwydd, heb yr ymyrraeth.
Fel arall, fe rybuddiodd bod yna risg y "gallai'r methiannau hyn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau a rhoi bywydau mewn perygl".
Mae pedwar comisiynydd a benodwyd gan y llywodraeth wedi cymryd rheolaeth dros bwerau Awdurdod T芒n ac Achub De Cymru.
Dywedodd Ms Blythyn y byddai ganddyn nhw bwerau i ailstrwythuro a diwygio rheolaeth y gwasanaeth a sicrhau "newid llwyr mewn prosesau, gwerthoedd a diwylliant".
- Cyhoeddwyd3 Ionawr
Y pedwar yw:
Y Farwnes Wilcox, cyn-arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd;
Kirsty Williams, cyn-Aelod o'r Senedd dros Aberhonddu a Sir Faesyfed;
Vij Randeniya, cyn-Brif Swyddog Gwasanaeth T芒n Gorllewin Canolbarth Lloegr;
Carl Foulkes, cyn-Brif Gwnstabl Heddlu鈥檙 Gogledd.
Fis diwethaf, daeth adroddiad Fenella Morris CB i'r casgliad bod penaethiaid Gwasanaeth T芒n De Cymru wedi goddef aflonyddu rhywiol a cham-drin domestig y tu allan i'r gwaith.
Honiadau o rywiaeth ac ymddygiad ymosodol tuag at staff oedd wedi ysgogi lansio鈥檙 ymchwiliad, a ddaeth o hyd i "ddiffygion difrifol yn y gwasanaeth" ar 么l cael tystiolaeth gan dros 450 o staff.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd bod y gwasanaeth yn "goddef" diffoddwyr t芒n yn postio delweddau rhywiol yn eu gwisg swyddogol ar blatfform oedolion OnlyFans.
Ar 么l cyhoeddi'r canfyddiadau, ymddiheurodd y prif swyddog t芒n Huw Jakeway a chyhoeddi ei fod yn ymddeol.
Bydd y comisiynwyr yn dod yn lle Awdurdod T芒n ac Achub De Cymru a'i 24 aelod, sy'n cynnwys cynghorwyr o 10 awdurdod lleol y rhanbarth.
Mewn datganiad beirniadol iawn i aelodau'r Senedd, dywedodd Ms Blythyn: "Nid oes gennyf hyder bod gan y gwasanaeth y gallu mewnol na'r gallu i oruchwylio ei adferiad ei hun.
"Mae rheolwyr ar bob lefel, hyd at, ac yn cynnwys yr uchaf, yn rhan o鈥檙 methiannau a nodwyd.
"Ni allant fod y broblem a'r ateb.
"Mae'n amlwg nad yw bwriad y prif swyddog t芒n i ymddeol yn ddigonol i ysgogi'r newid cyfanwerthol mewn prosesau, gwerthoedd a diwylliant a fydd yn angenrheidiol."
'Dim tystiolaeth' o newid
Dywedodd y gweinidog bod angen "arweinyddiaeth glir ac ymroddedig" i "yrru newid", ac nad oedd hi'n gweld "unrhyw dystiolaeth o hynny" ar hyn o bryd.
"Rwyf hefyd yn pryderu'n ddifrifol bod y methiannau hyn yn peryglu gallu'r gwasanaeth i weithredu'n ddiogel ac yn effeithiol," meddai.
"Mae hynny'n annerbyniol mewn unrhyw wasanaeth cyhoeddus, yn enwedig un sydd 芒鈥檙 cyfrifoldeb o amddiffyn pobl rhag niwed difrifol."
Fe wnaeth Ms Blythyn hefyd gyhuddo'r gwasanaeth o wneud "dim byd ystyrlon" i fynd i'r afael 芒 galwadau t芒n ffug ers i Lywodraeth Cymru alw am weithredu ar y mater yn 2016.
"Mae nifer y galwadau ffug maent yn eu mynychu wedi codi'n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai.
"Mae'n amlwg mai hwn yw'r perfformiwr gwaethaf yng Nghymru, ac ymhlith gr诺p o wasanaethau t芒n ac achub cyffelyb yng Nghymru a Lloegr."
Roedd hyn yn adlewyrchu'r "un ynysigrwydd rheoli a goddefgarwch o arferion gwael a nodwyd yn yr adolygiad", meddai Ms Blythyn wrth y Senedd.
"Nid yn unig y mae wedi arwain at gamymddwyn staff a gwahaniaethu rhwng pobl - mae hefyd yn effeithio ar ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau a diogelwch diffoddwyr t芒n, ac mae'n rhaid i ni weithredu i fynd i'r afael 芒 hynny."
Dywedodd y gweinidog y bydd gan y comisiynwyr "bwerau llawn i ailstrwythuro a diwygio rheolaeth gwasanaethau a meithrin diwylliant positif, anwahaniaethol".
Ychwanegodd y bydden nhw'n parhau yn eu swyddi "nes bod y gwaith wedi ei orffen, a nes bod Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru yn amlwg yn weithle cynhwysol a chroesawgar i bawb".
Nid oes amserlen wedi'i rhoi ar waith y comisiynwyr, ond yn ei hadroddiad roedd Fenella Morris yn amcangyfrif y gallai gymryd 18 mis i'w hargymhellion gael eu gweithredu.
Cam-drin 'systemig'
Mae'r canfyddiadau'n "hynod bryderus ac annerbyniol", meddai elusen Cymorth i Ferched Cymru, gan groesawu ymyrraeth yn y gwasanaeth.
Dywedodd yr elusen bod angen ymateb i'r "diwylliant systemig o gam-drin" er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn ddiogel i fenywod, gan godi pryderon penodol am "fethiannau difrifol a chamddefnydd p诺er systemig".
"Rydym yn canmol ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau atebolrwydd a diogelwch o fewn gwasanaethau cyhoeddus sy'n bodoli i amddiffyn ein cymunedau."
'Byth yn cyfaddawdu ar ddiogelwch'
Dywedodd y gwasanaeth eu bod yn "croesawu'r craffu a'r cyfeiriad a fydd yn cael ei ddarparu gan y pedwar comisiynydd".
"Rydyn ni eisiau pwysleisio i'r cyhoedd a staff na fyddan ni fyth yn cyfaddawdu ar eu diogelwch, ac fe gafodd hynny ei gefnogi yn yr adroddiad," meddai llefarydd.
"Mae'r gwasanaeth yn parhau i fwrw ymlaen 芒'r Cynllun Gweithredu Drafft mewn ymateb i'r argymhellion yn yr Adroddiad Adolygu Diwylliant Annibynnol a'r wythnos diwethaf cynhaliwyd pum sesiwn i ymgynghori 芒 staff ar y cynllun, gyda thri arall wedi'u cynllunio ar gyfer yr wythnos hon.
"Mae pedwar gweithgor wedi cael eu creu i fwrw ymlaen i gyflawni'r Cynllun Gweithredu, a sefydlwyd strwythur llywodraethu, fel y manylir yn y Cynllun Gweithredu Drafft, a gyhoeddwyd ar ein gwefan ar 16 Ionawr 2024."