大象传媒

Rhestrau aros GIG Cymru ar eu huchaf erioed

TriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae rhestrau aros ar gyfer triniaethau ysbyty yng Nghymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, yn 么l ffigyrau diweddaraf.

Roedd 768,899 o driniaethau eto i'w cwblhau ym mis Mawrth - cynnydd o bron i 6,400 ers y mis blaenorol.

Mae nifer y cleifion unigol sy'n aros am driniaeth hefyd wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed - 599,100.

Mae nifer y triniaethau sydd eto i'w cwblhau yn uwch na nifer y cleifion, am y gallai un claf fod yn aros am fwy nag un driniaeth.

Roedd cynnydd hefyd yn y cleifion sy'n aros dros flwyddyn, er bod y rheiny sy'n aros mwy na dwy flynedd yn gostwng.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar leihau amseroedd aros a gwella mynediad at ofal y GIG a gwasanaethau i bobl ledled Cymru."

Fe wnaeth amseroedd aros adrannau brys wella dros y mis, ond fe wnaeth perfformiad y gwasanaeth ambiwlans, yn ymateb i alwadau am achosion sy'n bygwth bywyd, waethygu.

Gwelliant ar gyfer ffigyrau canser

Roedd perfformiad amseroedd aros canser - yn erbyn y targed o gychwyn triniaeth o fewn deufis i'r amheuaeth o gael canser - y gorau ers dwy flynedd.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod 60.5% o gleifion wedi cychwyn triniaeth o fewn 62 diwrnod.

Ond mae hyn yn dal i fod yn is na'r targed o 75%.

Mae cynnydd parhaol wedi bod yn o ran cleifion allanol yn wynebu oedi hir am apwyntiadau.

Mae hyn wedi bod yn cynyddu yn ystod y chwe mis diwethaf.

Er i darged gael ei osod yn Rhagfyr 2022 y dylai neb fod yn aros dros flwyddyn, mae 61,100 o bobl wedi bod yn aros yn hirach na hynny ar y funud.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands, fod y ffigyrau yn "ofnadwy" ac yn dangos pam na ellir ymddiried yn y blaid Lafur i redeg y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod adrannau brys wedi cael y mis Ebrill prysuraf ar gofnod.

"Er hyn, fe wnaeth perfformiad adrannau brys wella yn erbyn y targedau pedair a 12 awr," meddai llefarydd.

"Ond dydy perfformiad ambiwlansys ddim lle 'dyn ni eisiau iddo fod.

"Ond fe wnaeth yr amser ymateb ar gyfartaledd ar gyfer galwadau ambr wella, ac fe gafodd 80% o alwadau 999 coch ymateb o fewn 15 munud."

Pynciau cysylltiedig