大象传媒

Y Cymry a allai ennill medalau yng Ngemau Olympaidd Paris 2024

Disgrifiad,

Pwy yw rhai o'r Cymry sy'n cystadlu yn y Gemau Olympaidd ym Mharis?

  • Cyhoeddwyd

Bydd 31 o athletwyr o Gymru'n cystadlu yn y Gemau Olympaidd ym Mharis fel rhan o d卯m Prydain yr haf hwn - y nifer fwyaf ers dros ganrif.

Unwaith yn unig y bu mwy - 32 yn Llundain yn 1908 - ond bryd hynny roedd gan Gymru d卯m hoci yn cystadlu.

Bydd 17 o'r 31 yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf.

Ruby Evans, 17, o鈥檙 t卯m gymnasteg yw'r ifancaf a'r hwyliwr Chris Grubbe, 39, yw'r hynaf.

Mae siawns ardderchog i nifer gipio medalau eleni, a'r nod yw gwella ar lwyddiant Gemau Rio yn 2016.

Bryd hynny fe enillodd athletwyr Cymreig eu cyfanswm uchaf erioed o fedalau - 10, oedd yn cynnwys pedair medal aur.

Ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu, dyma olwg ar rai o鈥檙 Cymry sydd 芒 siawns o sicrhau lle ar y podiwm y tro hwn.

Emma Finucane

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Enillodd y seiclwr Emma Finucane, 21 o Gaerfyrddin, deitl byd y llynedd ac mae hi鈥檔 ffefryn oherwydd hynny i gipio aur ym Mharis.

Mi fydd hi鈥檔 rasio mewn tair cystadleuaeth - y ras wib unigol, y ras wib i dimau a鈥檙 ras Keirin - a bydd cyfle gwirioneddol ganddi o ennill aur ym mhob un o鈥檙 cystadlaethau hynny.

Dyddiadau allweddol:

  • Dydd Llun, 5 Awst - y ras wib i dimau

  • Dydd Iau, 8 Awst - y ras Keirin

  • Dydd Sul, 11 Awst - y ras wib unigol

Josh Tarling

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er mai 20 oed yn unig yw Josh Tarling o Aberaeron mae eisoes wedi sefydlu ei hun fel un o鈥檙 seiclwyr gorau yn y byd yn y ras yn erbyn y cloc.

Yn 2023 fe enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop ac fe gipiodd efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd.

Mae ymysg y ffefrynnau ym Mharis ar y cwrs 32.4 cilometr ar ddiwrnod cyntaf y Gemau.

Dyddiadau allweddol:

  • Dydd Sadwrn, 27 Gorffennaf - y ras yn erbyn y cloc

  • Dydd Sadwrn, 3 Awst - y ras ffordd

Matt Richards

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe greodd y nofiwr 21 oed hanes yn Tokyo wrth ennill medal aur - gyda鈥檌 gyd Gymro Callum Jervis - yn y ras gyfnewid dull rhydd 4x200m.

Nhw oedd y Cymry cyntaf i ennill aur yn y pwll ers dros ganrif ac mi fydd Matt Richards nawr yn anelu at osod ei stamp yn y rasys unigol eleni.

Enillodd deitl byd y llynedd yn y 200m dull rhydd.

Dyddiadau allweddol:

  • Dydd Sadwrn, 27 Gorffennaf - rownd derfynol dull rhydd 4x200m

  • Dydd Mawrth, 30 Gorffennaf - rownd derfynol y ras gyfnewid dull rhydd 4x200m

Jade Jones

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Jade Jones yn gobeithio ennill medal aur am y trydydd tro yn dilyn llwyddiant yn y gystadleuaeth -57kg yn Llundain 2012 a Rio 2016.

Ar 么l colli yn y rownd gyntaf yn Tokyo mae hi wedi gadael pencadlys Taekwondo Prydain ym Manceinion er mwyn gweithio gyda hyfforddwr gwahanol yn Croatia.

Enillodd bum teitl yn 2023 er mwyn sicrhau ei lle ym Mharis.

Dyddiadau allweddol:

  • Dydd Iau, 8 Awst - y gystadleuaeth -57kg

Michael Beckett

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yr hwyliwr o Solfach oedd yr athletwr cyntaf o Gymru i sicrhau lle yn nh卯m Prydain - ym mis Awst 2023 ar 么l sefydlu ei hun fel un o鈥檙 hwylwyr gorau yn y byd yn ei faes.

Enillodd Beckett, 28, fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop yn 2021 a medal arian ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2023.

Mae felly ymysg y ffefrynnau i ddod i'r brig yn y cystadlaethau hwylio sy'n digwydd yn Marseille.

Dyddiadau allweddol:

  • Dydd Iau, 1 Awst - dechrau cystadleuaeth y ras dingi

  • Dydd Mawrth, 6 Awst - rownd derfynol y ras dingi

Jeremiah Azu

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Jeremiah Azu yw'r unig Gymro i redeg 100m mewn llai na 10 eiliad.

Fe sicrhaodd ei le ym Mharis ar 么l gorffen yn ail yn nhreialon t卯m Prydain ym Manceinion fis Mehefin.

Mae鈥檙 athletwr 23 oed o Gaerdydd yn anelu at gyrraedd ffeinal y ras 100m, ac yn gobeithio helpu t卯m ras gyfnewid 100m Prydain i ennill medal.

Dyddiau allweddol:

  • Dydd Sadwrn, 3 Awst - rownd derfynol y 100m

  • Dydd Gwener, 9 Awst - rownd derfynol y ras gyfnewid 100m

Pynciau cysylltiedig