Arestio pedwar yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi eu harestio ar 么l i ddyn gael ei anafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Y Rhyl fore Sadwrn.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Kingsley yn y dref am tua 08:22 yn dilyn adroddiadau bod cerddwr wedi cael ei daro gan gerbyd, cyn i'r gyrrwr ffoi o'r safle.
Cafodd dyn 77 oed ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Stoke gydag anafiadau sy'n cael eu disgrifio fel rhai "difrifol", ond mae o bellach mewn cyflwr sefydlog, yn 么l yr heddlu.
Daeth swyddogion o hyd i'r car yr oedden nhw'n amau o fod yn gysylltiedig 芒'r gwrthdrawiad y tu allan i eiddo ar Heol Marsh a chafodd pedwar o bobl, oedd y tu mewn i'r eiddo, eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau gyrru.
Mae'r tri dyn ac un ddynes wedi cael eu rhyddhau ar fechn茂aeth tra bo'r ymchwiliad yn parhau.
Mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth all fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu 芒 nhw cyn gynted 芒 phosib.