大象传媒

Cadarnhau Eluned Morgan yn arweinydd Llafur Cymru

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eluned Morgan, a gefnogodd Vaughan Gething yn yr ornest ddiwethaf i ddod yn arweinydd, wedi addo uno'r gr诺p Llafur

  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur Cymru wedi cadarnhau mai Eluned Morgan yw eu harweinydd newydd, a hi felly fydd yn cael ei henwebu gan y blaid i olynu Vaughan Gething fel prif weinidog.

Hi yw'r fenyw gyntaf i fod yn arweinydd Llafur Cymru ac mae disgwyl mai hi fydd prif weinidog benywaidd cyntaf Cymru.

Fe wnaeth y cyfnod lle roedd modd enwebu rhywun ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru gau am 12:00 ddydd Mercher, ac ni wnaeth unrhyw aelod arall sefyll.

Mae Ms Morgan wedi ennill cefnogaeth o leiaf 26 o 30 o wleidyddion Llafur Senedd Cymru.

Disgrifiad,

Yn 么l Golygydd Materion Cymreig y 大象传媒, Vaughan Roderick, mae'r penderfyniad yn "gambl ar ran Llafur"

Mae Ms Morgan, a gefnogodd Mr Gething yn yr ornest ddiwethaf i ddod yn arweinydd, wedi addo uno'r gr诺p Llafur.

Mae hi wedi dweud y bydd yn penodi Huw Irranca-Davies, a gefnogodd Jeremy Miles ar gyfer y swydd yn gynharach eleni, yn ddirprwy iddi.

Yn siarad gyda 大象传媒 Cymru brynhawn Mercher dywedodd ei bod yn "bwysig ymddiheuro i'r cyhoedd yng Nghymru".

鈥淒ydyn ni ddim wedi gwneud yn dda yn ystod yr wythnosau diwethaf,鈥 meddai.

"Ond mae hyn yn ymwneud 芒 throi tudalen newydd."

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae angen pleidlais ffurfiol ar lafar yn y Senedd cyn i鈥檙 prif weinidog newydd gael ei gadarnhau, a gallai'r Senedd gael ei galw yn 么l o doriad yr haf.

Mae'n ofynnol i aelodau o'r Senedd ddweud ar lafar pwy ddylai fod yn brif weinidog yn eu barn nhw, ac mae rhai ohonynt ar wyliau dramor ar hyn o bryd.

Mewn egwyddor fe allai'r gwrthbleidiau, gydag union hanner y niferoedd yn y Senedd, atal Ms Morgan rhag cael ei chadarnhau yn brif weinidog trwy gefnogi un ymgeisydd.

Ond nid yw hynny'n mynd i ddigwydd a bydd gan Lafur y niferoedd i gael cadarnhad o'u prif weinidog newydd.

Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu ymatal, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn bwriadu enwebu eu harweinwyr eu hunain.

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr

Does dim dwywaith bod Eluned Morgan yn wleidydd efo llond trol o brofiad 鈥 o weithio yn Senedd Ewrop, T欧鈥檙 Arglwyddi a Senedd Cymru.

Mae hi'n dweud beth sydd ar ei meddwl yn aml, sy'n gallu achosi problemau iddi ar adegau.

Ond mae hi hefyd yn barod i wynebu heriau. Dydi'r briff iechyd ddim yn hawdd ac mae hi wedi wynebu cryn dipyn o feirniadaeth yn y swydd yna.

Ond beth yw ei gweledigaeth ar gyfer y swydd? Wel, dydyn ni ddim yn gwybod a dweud y gwir.

Gan nad oes 'na gystadleuaeth, does 'na chwaith ddim maniffesto na thrafodaethau am bolis茂au.

Mae hi wedi dweud ei bod hi eisiau gwella gwasanaethau cyhoeddus ac eisiau adeiladu dyfodol mwy disglair i gymunedau Cymru.

Be' yn union mae hynny yn ei olygu? Dyna fydd y cyhoedd eisiau ei wybod yn fuan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eluned Morgan fydd trydydd arweinydd Llafur Cymru i Syr Keir gydweithio 芒 nhw ers iddo ef fod yn arweinydd Llafur y DU

Dywedodd Prif Weinidog y DU Keir Starmer fod ethol Eluned Morgan fel arweinydd yn "newyddion gwych i Gymru ac i'r Blaid Lafur".

"Daw Eluned 芒 chyfoeth o brofiad a hanes o gyflawni, ac fel y fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru, mae hi eisoes yn creu hanes.

"Rydym wedi cael mandad cryf i sicrhau newid i bobl sy鈥檔 gweithio, ac edrychaf ymlaen at weithio law yn llaw ag Eluned i gyflawni ein haddewidion i Gymru a Phrydain.鈥

'Ai dyma'r gorau all Llafur ei gynnig?'

Fe wnaeth arweinwyr Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd longyfarch Eluned Morgan ar ei phenodiad fel arweinydd benywaidd Llafur Cymru.

Ond fe ychwanegodd Rhun ap Iorwerth: "Mae鈥檙 ffaith mai hi ydy鈥檙 trydydd arweinydd mewn tri mis yn siarad cyfrolau am yr anhrefn wrth galon y blaid sy鈥檔 llywodraethu.

"Mae Cymru angen i鈥檞 phrif weinidog lwyddo, ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i ddewisiadau fod yn wahanol a chanlyniadau fod yn well."

Ychwanegodd: "Dylai Eluned Morgan alw etholiad ond wnaiff hi ddim, felly tra bod Llafur yn parhau i ddadlau ymysg ei gilydd, mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gynnig dewis amgen y gall pobl ym mhob cwr o鈥檔 gwlad uno y tu 么l iddo.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn feirniadol o'r sefyllfa

Fe wnaeth Andrew RT Davies feirniadu Ms Morgan, a hynny "am yr amseroedd aros gwaethaf erioed yn hanes Gwasanaeth Iechyd Cymru" gan ofyn "ai dyma'r gorau all Llafur ei gynnig?"

"Os bydd ei diffyg arweiniad gyda'r GIG yn cael ei adlewyrchu ar draws yr economi a'r sector addysg yng Nghymru, bydd Cymru ar ei cholled yn y dyfodol."

Ychwanegod Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol: 鈥淗offwn yn gyntaf longyfarch Eluned Morgan ar ei henwebiad llwyddiannus fel arweinydd Llafur Cymru.

"Byddai鈥檔 gamp wych bod yn brif weinidog benywaidd cyntaf ac rwy鈥檔 falch iawn o weld menyw arall yn arwain y ffordd yng ngwleidyddiaeth Cymru.

"Mater i Eluned a Llafur Cymru yn awr yw ailennill ymddiriedaeth y Senedd ac, yn bwysicaf oll, pobl Cymru."