Canfod gweddillion corff dyn sydd wedi bod ar goll ers 2002

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd Russell Scozzi wedi bod ar goll ers Mai 2002

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod gweddillion corff dyn sydd wedi bod ar goll ers 21 mlynedd wedi cael eu canfod.

Cafodd gweddillion Russell Scozzi o Abertawe eu darganfod ar 6 Ebrill mewn ardal coetir tu 么l i Waverley Drive, Y Mwmbwls.

Roedd Mr Scozzi, o ardal West Cross, wedi bod ar goll ers mis Mai 2002.

Fe dalodd chwaer Mr Scozzi deyrnged i'w brawd gan ddweud: "Mae fy nghalon yn mynd i blant Russell sydd wedi tyfu i fyny heb eu tad heb wir wybod beth ddigwyddodd iddo.

"Roeddwn i'n caru Russell yn fawr.

"Fe oedd fy mrawd mawr roeddwn o hyd yn edrych i fyny i pan oeddwn yn tyfu i fyny, ac mae ei golli yn y ffordd yma wedi bod yn ofnadwy.

"O'r diwedd gallwn gael y cyfle i'w alaru'n iawn."

Ychwanegodd: "Gobeithio y gallwn nawr, fel teulu, ei osod i orffwys a gyda gwaith Heddlu De Cymru darganfod beth ddigwyddodd iddo."

Dywedodd y ditectif prif arolygydd Matt Davies, o Heddlu'r De, fod yr ymchwiliad i farwolaeth Mr Scozzi yn parhau.

"Fe wnaeth trigolion Waverley Drive gefnogi swyddogion trwy gydol ein hymchwiliad helaeth a hirfaith o'r ardal a hoffem ddiolch iddyn nhw am eu cymorth a'u hamynedd," meddai.

Ychwanegodd fod teulu Mr Scozzi yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.