大象传媒

Carcharu dyn o Gaernarfon am dagu ac ymosod ar ei gariad

Dominic PatchettFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Dominic Patchett ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis o garchar

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 26 oed o Gaernarfon wedi cael ei garcharu am gam-drin ei bartner dros gyfnod o flwyddyn.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Dominic Patchett wedi tagu ac ymosod ar ei gariad tra'n defnyddio alcohol a chyffuriau trwy eu perthynas o 12 mis.

Cafwyd yn euog o dagu ac ymosod gan achosi niwed corfforol, a'i ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis o garchar ddydd Mawrth.

Fe gafodd orchymyn atal (restraining order) o 10 mlynedd hefyd, er mwyn amddiffyn y dioddefwr.

Dywedodd DC Dominique Swift o Heddlu Gogledd Cymru fod y cam-drin gan Patchett wedi bod yn "ysgytwol ac arswydus".

鈥淩oedd hi鈥檔 ddewr iawn i ddod ymlaen ac adrodd am ei ymddygiad a鈥檌 droseddau, sydd wedi cael effaith gorfforol ac emosiynol hirdymor arni."